
"Mae gen i frawd hoyw ac rwy' wedi gweld rhai o'r brwydrau y mae ef wedi'u cael trwy'r ysgol ac wrth ddod yn oedolyn. Rwy' wedi meddwl erioed ei fod yn annheg bod rhai pobl yn ceisio defnyddio rhywioldeb rhywun yn ei erbyn. Rwy'n falch o gyflawniadau'r Cynulliad ar gydraddoldeb LHDT a sut y gall diwylliant gwaith cynhwysol ac amrywiol greu lle gwych i weithio. Am yr holl resymau hyn, yr wyf wedi dod yn Gyfaill."
"Mae'n bwysig i mi gefnogi fy nghydweithwyr trwy fod yn Gyfaill OUT-NAW oherwydd credaf fod pawb yn haeddu'r hawl i fod yn hapus ac yn gyfforddus yn eu gweithle. Dod yn gyfaill y rhwydwaith LHDT oedd y peth naturiol i'w wneud i mi, gan nad oes angen llwyfan arnom ni i fod yn ni'n hunain. Nid clyweliad yw bywyd, ac i ddyfynnu corws y gân gofiadwy honno o La Cage Aux Folles: Life’s not worth a damn ‘til you can say, Hey World, I am what I am.”
"Nid oedd angen i mi feddwl am gofrestru ar y rhaglen cyfeillion. I mi, mae'n ymwneud â gwerthoedd personol a gwers a ddysgwyd yn gynnar am drin pobl eraill yn y ffordd y byddech chi am gael eich trin. Nid yw pobl yn gadael pwy ydyn nhw wrth y drws pan fyddant yn dod i'r gwaith, a dyna'r cymhelliant i mi a pham ei bod yn bwysig i fod yn gyfaill. Rydym i gyd yn mabwysiadu personas yn y gweithle i ryw raddau, ond nid yw methu â bod yn chi eich hun, ar lefel sylfaenol, yn rhywbeth y byddwn yn dymuno ei oddef. Felly, rwy'n cefnogi cydraddoldeb LHDT oherwydd ni allaf feddwl am unrhyw reswm i beidio. "
"Pobl LHDT yw ein meddygon, ein nyrsys, ein swyddog yr heddlu, ein teulu, ein ffrindiau. Maent yn Fwslimiaid, yn Gristnogion, yn anffyddwyr. Maent yn Ddu, yn Wyn, yn Asiaidd. Maent yn anabl. Maent yn hen ac ifanc. Maent yn ddynion, yn ferched a phopeth yn y canol. Fel y dywedodd y diweddar AS Jo Cox, "rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin na'r pethau sy'n ein rhannu", a thra bod brwydr dros gydraddoldeb LHDT, byddaf yn sefyll wrth eu hochr fel cyfaill."
"Ni wnes i feddwl ddwywaith cyn dod yn Gyfaill. Roeddwn i'n mynd i ddweud 'Rwy'n meddwl bod gan bawb yr hawl i fod yn nhw'u hunain', ond nid wyf yn meddwl hynny, rwy'n gwybod hynny! Mae gan bawb yr hawl i fod yn nhw'u hunain. Nid yw rhywioldeb yn eich diffinio fel person, mae perthnasoedd a chyfeillgarwch yn ymwneud â chariad, nid rhyw. Ac yng ngeiriau Lady Gaga - “No matter gay, straight, or bi, lesbian, transgendered life, I'm on the right track baby, I was born to survive.”
"Rwy'n falch o weithio yn y Cynulliad, oherwydd y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac oherwydd y cyfraniad a wnawn i bobl Cymru. Deuthum yn gyfaill OUT-NAW yn fy wythnos gyntaf yn y Cynulliad oherwydd ei fod yn bwysig i mi fod y bobl rwy'n gweithio gyda nhw yn gallu bod yn nhw'u hunain, heb ofn na rhagfarn, ac yn gallu teimlo yr un mor falch o'r Cynulliad fel cyflogwr cynhwysol, croesawgar. Mae gweithio yma yn teimlo'n onest, yn amrywiol, ac yn llawn dathlu - sy'n wych!"
Am fwy o wybodaeth am ein rhwydwaith LHDT, ein cyfeillion neu am gynhwysiant LHDT yn y Cynulliad, ffoniwch y tîm Cynhwysiant ac Amrywiaeth. Mae gwybodaeth bellach a chyngor ar sut gall cyfeillion helpu i greu gweithle LHDT gynhwysol yng nghanllaw gweithle Stonewall.