Cyhoeddwyd 17/10/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ar 8 Gorffennaf 2016, gwahoddwyd Betty Campbell (MBE) i siarad yn y Cynulliad gan rwydwaith Menywod ‘INSPIRE’ a rhwydwaith ‘REACH’ (Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Diwylliannol), fel rhan o wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cynulliad.
Mae wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ddigwyddiad a gynhelir bob blwyddyn fel rhan o ymrwymiad y Cynulliad i hyrwyddo a chefnogi gweithle cynhwysol. Yn yr wythnos honno, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill i godi ymwybyddiaeth a hybu a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.
Os nad oeddech yn ddigon ffodus i glywed Betty, gallwch wrando arni ar
YouTube: beth wnaeth ei hysbrydoli hi; beth wnaeth ei helpu hi i gyrraedd lle wnaeth hi; beth sydd ganddi i'w ddweud i ysbrydoli eraill sy’n wynebu rhwystrau tebyg a’i chyngor i bobl sy'n wynebu rhwystrau eu hunain. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Betty a pam bod y rhwydweithiau wedi gwahodd Betty i siarad â nhw drwy ddarllen ein
blog ym mis Awst yn gynharach eleni.