Mis Hanes Pobl Dduon: Betty Campbell (MBE), y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru, yn annerch rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle y Cynulliad

Cyhoeddwyd 17/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2016

Betty Campbell photoAr 8 Gorffennaf 2016, gwahoddwyd Betty Campbell (MBE) i siarad yn y Cynulliad gan rwydwaith Menywod ‘INSPIRE’ a rhwydwaith ‘REACH’ (Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Diwylliannol), fel rhan o wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cynulliad. Mae wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ddigwyddiad a gynhelir bob blwyddyn fel rhan o ymrwymiad y Cynulliad i hyrwyddo a chefnogi gweithle cynhwysol. Yn yr wythnos honno, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill i godi ymwybyddiaeth a hybu a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant. Os nad oeddech yn ddigon ffodus i glywed Betty, gallwch wrando arni ar YouTube: beth wnaeth ei hysbrydoli hi; beth wnaeth ei helpu hi i gyrraedd lle wnaeth hi; beth sydd ganddi i'w ddweud i ysbrydoli eraill sy’n wynebu rhwystrau tebyg a’i chyngor i bobl sy'n wynebu rhwystrau eu hunain. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Betty a pam bod y rhwydweithiau wedi gwahodd Betty i siarad â nhw drwy ddarllen ein blog ym mis Awst yn gynharach eleni.