Mis Hanes Pobl Dduon: Edrych yn ôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/11/2016

Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydlynydd y Rhwydweithiau [caption id="attachment_1805" align="alignnone" width="1108"]bhmwales_logo Logo Mis Hanes Pobl Dduon Cymru[/caption] Ew! Mae mis Hydref wedi bod yn brysur yn y Cynulliad i'r rhwydwaith Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol wrth sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle. At hynny, braf yw ymfalchïo yn llwyddiant y digwyddiadau a gynhaliwyd dros y mis diwethaf. Cynhaliwyd ystod o weithgareddau'n fewnol gan y Cynulliad, gan gynnwys:
  • Dosbarthu nodyn desg ar gyfer staff y Comisiwn ac Aelodau'r Cynulliad i nodi dechrau Mis Hanes Pobl Dduon, a oedd yn ysgogi pobl i ddwyn i gof beth mae rhagfarn ddiarwybod yn ei olygu, gan gynnig cyngor ymarferol o ran sut i fynd i'r afael â rhagfarn ddiarwybod, a'i stopio.
  • Sgwrs banel ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a gynhaliwyd ar 10 Hydref i bobl gael trafod y materion iechyd meddwl y maen nhw'n eu hwynebu'n bersonol neu o fewn eu cymunedau, gan gynnwys y gymuned o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. (Drwy gydol yr erthygl hon, defnyddir y term Pobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig i ddisgrifio pobl o bob tras nad ydynt yn wyn.)
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gydag Elin Jones AC, y Llywydd, ar gyfer pobl ifanc yn y gymuned o Bobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig.
Am mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, roeddem yn falch o gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau allanol yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon. Cawsom gyfle i ymgysylltu â'r bobl yr ydym yma i'w cynrychioli, gan ddangos mor gynhwysol yw'r Cynulliad fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau. Roeddem yn eiddgar i siarad â phobl ynghylch materion sydd o bwys iddyn nhw, a chasglu barn i fod yn sail i'n hegwyddorion sylfaenol o ran amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb, a llywio ein Cynllun Gweithredu a'n Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer 2016-2021. Os hoffech chi wybod rhagor am ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a'n Cynllun Gweithredu, neu gyfrannu atynt, cysylltwch â'r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy anfon neges e-bost at diversity@cynulliad.cymru erbyn 30 Tachwedd 2016, neu cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan. Roedd gennym stondinau mewn pedwar digwyddiad a gynhaliwyd yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon:
  • Seremoni wobrwyo 'Ifanc, Dawnus, a Du' ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, a gynhaliwyd ddydd Gwener 30 Medi yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Roedd y seremoni wobrwyo, a agorwyd gan Mark Drakeford AC, ac a gyflwynwyd gan Beverly Humphreys, cantores a chyflwynydd BBC, yn ddigwyddiad mawreddog a golygfa gefndirol odidog y Senedd yn ychwanegu at hynny. img_7808 Roedd y categorïau ar gyfer y gwobrau Ifanc, Dawnus a Du, yn cynnwys celfyddyd perfformio, cerddoriaeth, dinesydd da, mentergarwch, gwirfoddoli, gofal a chwaraeon. Roedd gweld y gwaith caled, yr ymrwymiad a'r ymroddiad a ddangosodd y bobl ifanc hyn yn galonogol, a braf oedd cydnabod eu llwyddiannau. Profiad arbennig tu hwnt oedd gweld wynebau'r bobl ifanc yn eu helfen wrth iddynt dderbyn eu gwobrau.
  • Seremoni agoriadol Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, ddydd Sadwrn 1 Hydref, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
[caption id="attachment_1972" align="alignleft" width="303"]img_7831 Llun o ganwr ar lwyfan[/caption] Roedd amrywiaeth y talentau a gafwyd ar y dydd yn werth ei weld. Gwych hefyd oedd gweld cymaint o bobl yn galw heibio i fwynhau'r achlysur a'r dathliadau.    
  • Digwyddiad Mis Hanes Pobl Dduon yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, ddydd Llun 17 Hydref 2016, yn Neuadd y Sir, Caerdydd.
Roedd Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ymateb i'r dystiolaeth gynyddol sy'n dangos bod Pobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig yn llai tebygol na'u cydweithwyr gwyn o gael dyrchafiadau yn y gwaith, a mynd i'r afael â hyn. Gosododd neges o groeso Hune Milligan y sylfaen ar gyfer y digwyddiad, wrth iddi ddweud nad yw tystiolaeth ond yn ddefnyddiol os y gweithredir arno - mae'n rhaid i dystiolaeth ysgogi newid. [caption id="attachment_1973" align="alignright" width="375"]20161017_161440_resized Llun o staff y Cynulliad ar ein stondin[/caption] Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i'r gwasanaethau cyhoeddus rannu arferion da ynghyd â rhannu syniadau ynghylch yr hyn y gall sefydliadau ei wneud i wella o ran recriwtio, cadw, a manteisio ar brofiad Pobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig yn y gweithle.   Rhannodd nifer o siaradwyr eu profiadau o ran yr hyn y mae eu sefydliadau nhw yn ei wneud. Y Prif Siaradwyr a serennodd o'm safbwynt i oedd Tessy Oji, Prif Weithredwr 'The Diana Awards', a ddywedodd bod yn rhaid dechrau arfer gyda gwthio ffiniau, a Humie Webb, o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, a anogodd sefydliadau i gydnabod bod yn rhaid iddynt weithio'n wahanol ac ymrwymo i weithio'n wahanol. Roedd ystod eang o sefydliadau'r sector cyhoeddus yn bresennol, gan gynnwys uwch-reolwyr a fu'n barod i gydnabod yr angen i wella cyfleoedd a chanlyniadau ar gyfer cymunedau o leiafrifoedd ethnig gan ddeall sut y gall talent Pobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig gael ei ddefnyddio'n llawn gan gyflogwyr. Yn y digwyddiad, daeth i'r amlwg bod llawer o arferion da eisoes ar waith ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Cam cychwynnol oedd y digwyddiad hwn wrth inni fabwysiadu arferion da a'u rhoi ar waith ar draws y sector cyhoeddus yn gyffredinol.
  • Seremoni gloi Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, a gynhaliwyd ddydd Sul, 30 Hydref, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Daethpwyd â Mis Hanes Pobl Dduon 2016 i ben gyda llond plat o dalent, ac roedd yr awyrgylch yn ddathlu i gyd. Yn anffodus, dyna ddiwedd ar y dathliadau a'r gydnabyddiaeth i gyfraniadau Pobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig i'r gymdeithas, i dechnoleg, i'r economi ac i'r celfyddydau a'n diwylliant tan y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, er i Fis Hanes Pobl Dduon ddod i ben tan mis Hydref 2017, rydym yn gwbl grediniol nad Mis Hanes Pobl Dduon yw'r unig amser pan fo unigolion ysbrydoledig a digwyddiadau gwerth chweil yn y gymuned o Bobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig, yn cael eu dathlu, eu cydnabod a'u gwerthfawrogi. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r rhwydwaith Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol wrth inni hybu ymwybyddiaeth o'i gwaith, ymgysylltu mwyfwy â'r gymuned o Bobl Dduon a Lleifrifoedd Ethnig ac anelu at greu gweithle cwbl gynhwysol fel corff seneddol hygyrch. [caption id="attachment_1805" align="alignnone" width="1108"]bhmwales_logo Logo Mis Hanes Pobl Dduon Cymru[/caption]