Cyhoeddwyd 14/02/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Ym mis Chwefror bob blwyddyn, mae'r Cynulliad yn nodi Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Eleni, bydd ein rhwydwaith staff LGBT, OUT-NAW, a'i gyfeillion yn cynnal arddangosfa o'u Harwyr LGBT yn y Senedd drwy gydol y mis gan ganolbwyntio ar bobl LGBT dylanwadol ac ysbrydoledig. Gall y rheiny sy'n methu ymweld â'r Senedd glicio
LGBT History month Feb 2014 i weld copi o'r cyflwyniad.
Yn y Cynulliad rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Rydym wedi cael ein cydnabod yn un o'r
sefydliadau mwyaf LGB-gyfeillgar yn y DU, a'r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. I ddangos ein hymrwymiad, byddwn hefyd yn hedfan baneri'r enfys ar ein hystâd ym Mae Caerdydd a Bae Colwyn o 19 Chwefror ymlaen. Mae hon yn ffordd gyhoeddus iawn o ddangos ein hymrwymiad i'n staff LGBT ac i bobl LGBT yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae'n dangos y cynnydd a wnaed o ran cydraddoldeb i bobl LGBT a'r heriau sy'n parhau i fodoli.
Cliciwch
yma am ragor o wybodaeth am Fis Hanes LGBT ac
yma am ddigwyddiadau yng Nghymru.