Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) 2014

Cyhoeddwyd 14/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2014

Ym mis Chwefror bob blwyddyn, mae'r Cynulliad yn nodi Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Eleni, bydd ein rhwydwaith staff LGBT, OUT-NAW, a'i gyfeillion yn cynnal arddangosfa o'u Harwyr LGBT yn y Senedd drwy gydol y mis gan ganolbwyntio ar bobl LGBT dylanwadol ac ysbrydoledig. Gall y rheiny sy'n methu ymweld â'r Senedd glicio LGBT History month Feb 2014 i weld copi o'r cyflwyniad. Yn y Cynulliad rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Rydym wedi cael ein cydnabod yn un o'r sefydliadau mwyaf LGB-gyfeillgar yn y DU, a'r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. I ddangos ein hymrwymiad, byddwn hefyd yn hedfan baneri'r enfys ar ein hystâd ym Mae Caerdydd a Bae Colwyn o 19 Chwefror ymlaen. Mae hon yn ffordd gyhoeddus iawn o ddangos ein hymrwymiad i'n staff LGBT ac i bobl LGBT yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae'n dangos y cynnydd a wnaed o ran cydraddoldeb i bobl LGBT a'r heriau sy'n parhau i fodoli. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Fis Hanes LGBT ac yma am ddigwyddiadau yng Nghymru. OUTNAW 2014 Star-performer-network-groups-colour 2014 - Top-100-cymru-colour