Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)

Cyhoeddwyd 07/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/02/2013

Ym mis Chwefror bob blwyddyn, bydd y Cynulliad yn nodi Mis Hanes LGBT. Eleni bydd ein rhwydwaith staff LGBT, OUT-NAW, yn arddangos Arwyr o blith pobl LGBT yn y Senedd drwy gydol mis Chwefror, gan ganolbwyntio ar bobl LGBT dylanwadol ac ysbrydoledig. Gall y rheini sy’n methu ag ymweld â’r Senedd glicio yma i weld copi o’r cyflwyniad.

Fel un o’r sefydliadau mwyaf cyfeillgar tuag at bobl LGBT yn y DU, byddwn hefyd yn cyhwfan baner yr enfys uwchben ein hystâd ym Mae Caerdydd ac ym Mae Colwyn o 7 Chwefror. Mae hon yn ffordd gyhoeddus iawn o ddangos ein hymrwymiad i’n staff LGBT ac i bobl LGBT yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n dangos y cynnydd a wnaed o ran cael cydraddoldeb i bobl LGBT a’r heriau sy’n parhau i fodoli. Cliciwch yma i weld datganiad i’r wasg am gyhwfan y faner dros gydraddoldeb i bobl LGBT.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid ledled De Cymru i hyrwyddo Mis Hanes LGBT i’n staff ac i bobl Cymru.

  • Arddangosfa Portreadau Pinc yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd Mae Portreadau Pinc yn gyfres o bortreadau o bobl broffesiynol lesbiaidd a hoyw, llwyddiannus sy’n gweithio yn y diwydiant ffilmiau, gan y ffotograffydd enwog Donald MacLellan. Mae’r arddangosfa’n cynnwys unigolion nodedig fel Syr Ian McKellan, Stephen Fry a Berwyn Rowlands. Bydd yr arddangosfa hon ar agor i’r cyhoedd rhwng 1 a 10 Chwefror a rhwng 25 a 28 Chwefror ar ail lawr Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
  • Arddangosfa o lyfrau yn Llyfrgell Ganolog, Caerdydd Dathliad o lenyddiaeth Pobl LGBT, ac awduron LGBT. Cynhelir yr arddangosfa hon ar ail lawr Adran Hamdden y Llyfrgell Ganolog drwy gydol mis Chwefror.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Fis Hanes LGBT