Fel rhan o’n hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o grwpiau sydd wedi ymddieithrio ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mae’r wybodaeth heddiw yn canolbwyntio ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
A wyddech chi mai Sipsiwn yw’r grŵp lleiafrifol ethnig sy’n tyfu gyflymaf o ran niferoedd yn Ewrop?
Credir bod oddeutu 12 miliwn o Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Ewrop, ac mae tua 300,000 ohonynt yn byw yn y DU. Fodd bynnag, yn 2011 yn unig y cafwyd categori ‘Sipsi/Teithiwr Gwyddelig’ am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad y DU; drwy hynny, cydnabuwyd cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ffurfiol.
Yn aml, caiff Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu gwthio i gyrion cymdeithas, a gwahaniaethir yn eu herbyn yn rheolaidd. Canfu arolwg yn 2007 fod naw o bob 10 o blant Sipsiwn wedi profi cam-drin hiliol, ac roedd dau draean o’r sawl a ymatebodd i’r arolwg wedi cael eu bwlio neu roedd rhywun wedi ymosod arnynt yn gorfforol. Mae diffyg mynediad at addysg a gwasanaethau iechyd yn cyfrannu at lefelau cyflawni sydd gyda’r isaf ymysg pob grŵp lleiafrifol ethnig.
Cynhelir Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr bob mis Mehefin; mae’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled y wlad. Yng Nghymru, bydd y prif ddigwyddiad dathlu yn cael ei gynnal ddydd Llun 25 Mehefin yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, rhwng 10.00 a 16.00. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, a bydd yn cynnwys ffilmiau, perfformiadau byw, celf, ac arddangosfeydd sy’n dangos amrywiaeth ddiwylliannol cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Gallwch ddarllen rhagor am Fis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yma.