- Rydym wedi codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrowahanol, fel awtistiaeth, ymhlith cydweithwyr a rheolwyr, fel eu bod mewn sefyllfa dda i gefnogi cydweithwyr niwrowahanol yn y gweithle.
- Rydym wedi darparu hyfforddiant i reolwyr llinell ar gefnogi a rheoli cydweithwyr sydd ag awtistiaeth.
- Rydym bob amser yn mireinio ein swydd-ddisgrifiadau i roi syniad cliriach i ymgeiswyr am y rôl dan sylw.
- Rydym wedi cymryd camau i ddiweddaru ein pecynnau ymgeiswyr ac rydym yn y broses o ailwampio ein gwefannau recriwtio i sicrhau hygyrchedd i bawb.
- Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein prosesau recriwtio i gynyddu cynhwysiant drwy sicrhau bod ein gwerthoedd yn cyd-fynd â'n proses recriwtio.
- Rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr i ddeall pa gymorth, os o gwbl, y bydd ei angen arnynt os cânt eu penodi. Gall y cymorth hwn gynnwys addasiadau synhwyraidd, megis darparu mannau tawel i weithio, meddalwedd cynorthwyol, clustffonau canslo sŵn, cyfeillio, a chymhorthion synhwyraidd.
Niwroamrywiaeth yn y gweithle
Cyhoeddwyd 05/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Niwroamrywiaeth yn y gweithle
Mae niwroamrywiaeth yn ymwneud â chydnabod bod pobl yn amgyffred pethau'n wahanol. I'r rhan fwyaf o bobl, mae'r ymennydd yn gweithio ac yn dehongli gwybodaeth mewn ffordd debyg, ond mae rhai pobl yn dehongli gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol. Dim ond ffordd arall o ymgysylltu â’r byd o’ch cwmpas yw hyn.
Pam mae'n bwysig i sefydliadau dderbyn a chefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle
Mae sefydliadau'n sylweddoli bod amrywiaeth o sgiliau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd yn meithrin arloesedd, a bod hyn yn ei dro yn gallu gwella cynhyrchiant, bodloni anghenion cwsmeriaid yn well a dylanwadu ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir.
Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, dim ond 16 y cant o oedolion ag awtistiaeth sydd mewn gwaith llawn amser. Mae llawer o bobl ag awtistiaeth yn gallu gweithio ac maent yn awyddus i gael swydd sy'n gydnaws â'u doniau a'u diddordebau. Gydag ychydig o ddealltwriaeth a mân addasiadau yn y gweithle, gallant fod yn gaffaeliad go iawn i fusnesau ledled y DU.
Beth rydym ni'n ei wneud i ddenu pobl niwrowahanol a'u cadw