Niwroamrywiaeth yn y gweithle

Cyhoeddwyd 05/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2019

Amrywiaeth a Chynhwysiant Niwroamrywiaeth yn y gweithle Mae niwroamrywiaeth yn ymwneud â chydnabod bod pobl yn amgyffred pethau'n wahanol. I'r rhan fwyaf o bobl, mae'r ymennydd yn gweithio ac yn dehongli gwybodaeth mewn ffordd debyg, ond mae rhai pobl yn dehongli gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol. Dim ond ffordd arall o ymgysylltu â’r byd o’ch cwmpas yw hyn. Pam mae'n bwysig i sefydliadau dderbyn a chefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle Mae sefydliadau'n sylweddoli bod amrywiaeth o sgiliau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd yn meithrin arloesedd, a bod hyn yn ei dro yn gallu gwella cynhyrchiant, bodloni anghenion cwsmeriaid yn well a dylanwadu ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir. Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, dim ond 16 y cant o oedolion ag awtistiaeth sydd mewn gwaith llawn amser. Mae llawer o bobl ag awtistiaeth yn gallu gweithio ac maent yn awyddus i gael swydd sy'n gydnaws â'u doniau a'u diddordebau. Gydag ychydig o ddealltwriaeth a mân addasiadau yn y gweithle, gallant fod yn gaffaeliad go iawn i fusnesau ledled y DU. Beth rydym ni'n ei wneud i ddenu pobl niwrowahanol a'u cadw
  • Rydym wedi codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrowahanol, fel awtistiaeth, ymhlith cydweithwyr a rheolwyr, fel eu bod mewn sefyllfa dda i gefnogi cydweithwyr niwrowahanol yn y gweithle.
  • Rydym wedi darparu hyfforddiant i reolwyr llinell ar gefnogi a rheoli cydweithwyr sydd ag awtistiaeth.
  • Rydym bob amser yn mireinio ein swydd-ddisgrifiadau i roi syniad cliriach i ymgeiswyr am y rôl dan sylw.
  • Rydym wedi cymryd camau i ddiweddaru ein pecynnau ymgeiswyr ac rydym yn y broses o ailwampio ein gwefannau recriwtio i sicrhau hygyrchedd i bawb.
  • Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein prosesau recriwtio i gynyddu cynhwysiant drwy sicrhau bod ein gwerthoedd yn cyd-fynd â'n proses recriwtio.
  • Rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr i ddeall pa gymorth, os o gwbl, y bydd ei angen arnynt os cânt eu penodi. Gall y cymorth hwn gynnwys addasiadau synhwyraidd, megis darparu mannau tawel i weithio, meddalwedd cynorthwyol, clustffonau canslo sŵn, cyfeillio, a chymhorthion synhwyraidd.
 Mae Comisiwn y Cynulliad yn un o lofnodwyr Ymgyrch Hyderus o ran Anabledd y Llywodraeth – rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym hefyd wedi cael gwobr gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am fod yn ystyriol o awtistiaeth. “Fel rhywun sydd â diagnosis o Awtistiaeth ac ADHD sy’n gyflogai yng Nghomisiwn y Cynulliad, rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nerbyn am bwy ydw i, fel person sy'n byw gyda'r anableddau hyn. Mae'r sefydliad wedi bod yn gefnogol iawn o ran fy nymuniad i weithio rhan amser gan mai hyn sy’n addas at fy anghenion. Roedd yn anrhydedd mawr traddodi cyflwyniad am awtistiaeth mewn sesiwn hyfforddi staff lle cefais y cyfle i siarad am fy mhrofiadau personol yn hyn o beth. Roedd y sesiwn hyfforddi arbenigol hon yn help mawr i fi a'm rheolwr llinell ddeall fy anghenion, a gwnaed addasiadau rhesymol o ganlyniad. Edrychaf ymlaen at barhau i ddatblygu mwy o sgiliau a phrofiad yn ystod fy nghyflogaeth yma ac at barhau i gyfrannu yn frwd at waith bob dydd y sefydliad. ” Cyflogai Comisiwn y Cynulliad