[youtube https://www.youtube.com/watch?v=SxKDwnrYvMs&w=560&h=315]
Uchafbwynt arall yw dysgu staff y cantîn i weini yn Gymraeg. Mae’n rhoi gwefr i mi eu clywed nhw’n defnyddio’r ymadroddion maen nhw wedi eu dysgu wrth eu gwaith, ac rwy’ wastad yn edrych ymlaen at fy sesiynau â nhw, gan eu bod nhw bob amser yn llawn hwyl. [caption id="attachment_795" align="alignnone" width="660"] Staff cantîn y Cynulliad yn dal cardiau sy’n dweud: ‘Shwmae! Dyn ni’n dysgu gweini yn Gymraeg’[/caption] Dyma rai o’r ymadroddion rwy’ wedi eu dysgu iddyn nhw: coffi gwyn white coffee coffi du black coffee coffi gwyn bach small white coffee coffi du bach small black coffee coffi gwyn mawr large white coffee coffi du mawr large black coffee Ga i helpu? May I help? Dyna chi There you are Diolch Thank you Croeso You’re welcome Pysgod a Sglods Fish and Chips Brechdan Sandwich Bara brown Brown bread Bara gwyn White bread Un peth sydd wedi fy nharo i ers cychwyn yn y swydd yma ym mis Tachwedd yw mor anodd yw hi i ddysgwyr gael cyfle i siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Felly, yma, yn yr ychydig le sydd gen i ar ôl, hoffwn alw ar siaradwyr Cymraeg i roi cyfle i’n dysgwyr ni – mae troi i’r Saesneg yn gallu tanseilio eu hyder eu bod nhw’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Felly, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, ewch amdani! Pob lwc! Gwyliwch Anna’n dysgu Cymraeg gyda Dewi’r Ddraig yn y fideo byr yma:[youtube https://www.youtube.com/watch?v=-nqUeCam-rg&w=560&h=315]