Pobl y Cynulliad: Anna, Tiwtor Cymraeg

Cyhoeddwyd 04/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2015

Shwmae! Anna dw i, a ches i fy mhenodi yn Diwtor Cymraeg i staff Comisiwn y Cynulliad ym mis Tachwedd 2014. Rwy’n cynnig sesiynau mentora un i un, gwersi ffurfiol a gweithgareddau mwy anffurfiol i ddysgwyr ar bob lefel, o ddechreuwyr pur i ddysgwyr mwy rhugl. Yn y swydd newydd hon, mae wedi bod yn bleser cwrdd â chynifer o staff Comisiwn y Cynulliad sy’n frwdfrydig dros ddysgu Cymraeg. Mae’n wych clywed y dysgwyr yn llawn Cymraeg o gwmpas swyddfeydd Tŷ Hywel a’r Senedd. Un o’r uchafbwyntiau i mi hyd yma oedd cael fy nghyfarch ar gân yn Gymraeg gan swyddogion y Cynulliad wrth i mi ddod i mewn i’r adeilad ar fore diflas o fis Ionawr. Y diwrnod cynt, ron i wedi cynnal sesiwn cyfarch a thywys yn Gymraeg gyda nhw. Mae eu brwdfrydedd nhw’n heintus, a dyna oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y fideo yma, lle cewch chi weld nhw’n serennu:

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=SxKDwnrYvMs&w=560&h=315]

Uchafbwynt arall yw dysgu staff y cantîn i weini yn Gymraeg. Mae’n rhoi gwefr i mi eu clywed nhw’n defnyddio’r ymadroddion maen nhw wedi eu dysgu wrth eu gwaith, ac rwy’ wastad yn edrych ymlaen at fy sesiynau â nhw, gan eu bod nhw bob amser yn llawn hwyl. [caption id="attachment_795" align="alignnone" width="660"]Senedd cafe Staff cantîn y Cynulliad yn dal cardiau sy’n dweud: ‘Shwmae! Dyn ni’n dysgu gweini yn Gymraeg’[/caption] Dyma rai o’r ymadroddion rwy’ wedi eu dysgu iddyn nhw: coffi gwyn                      white coffee coffi du                          black coffee coffi gwyn bach              small white coffee coffi du bach                  small black coffee coffi gwyn mawr             large white coffee coffi du mawr                 large black coffee Ga i helpu?                     May I help? Dyna chi                         There you are Diolch                            Thank you Croeso                           You’re welcome Pysgod a Sglods             Fish and Chips Brechdan                        Sandwich Bara brown                     Brown bread Bara gwyn                       White bread Un peth sydd wedi fy nharo i ers cychwyn yn y swydd yma ym mis Tachwedd yw mor anodd yw hi i ddysgwyr gael cyfle i siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Felly, yma, yn yr ychydig le sydd gen i ar ôl, hoffwn alw ar siaradwyr Cymraeg i roi cyfle i’n dysgwyr ni – mae troi i’r Saesneg yn gallu tanseilio eu hyder eu bod nhw’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Felly, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, ewch amdani! Pob lwc! Gwyliwch Anna’n dysgu Cymraeg gyda Dewi’r Ddraig yn y fideo byr yma:

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=-nqUeCam-rg&w=560&h=315]