Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – Digwyddiad Cyflwyno Rhanddeiliaid
Cyhoeddwyd 28/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sydd newydd ei ffurfio, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i groesawu rhanddeiliaid.
Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i randdeiliaid gyfarfod ag Aelodau newydd y Pwyllgor ac i siarad â hwy am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y Pwyllgor.
I ddechrau, bu unigolion o sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Colegau Cymru yn gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle i glywed Aelodau’r Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gwrando ar ei flaenoriaethau a dysgu am gynnwys ei bortffolio.
Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, cyfarfu rhanddeiliad ag Aelodau’r Pwyllgor yng Nghanolfan yr Urdd lle cynhaliwyd digwyddiad ar ffurf ‘rhwydweithio carlam’.
Neilltuwyd bwrdd i randdeiliaid o sectorau gwahanol ac Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor.
Cafwyd trafodaethau ynghylch agweddau gwahanol ar gylch gwaith y Pwyllgor.
[gallery ids="1465,1467" type="rectangular"]
Trafodwyd yr angen i’r Pwyllgor edrych ar opsiynau gwahanol er mwyn gwneud newidiadau i ardrethi busnes a hefyd yr angen i ystyried rhanbarthau dinasoedd, eu pwrpas a pa ddulliau fyddai eu hangen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus.
Roedd y trafodaethau am drafnidiaeth yn cynnwys trafod paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru ac ystyried pa welliannau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Wrth drafod sgiliau cododd cwestiynau ynghylch a yw Cymru yn hyfforddi’r bobl gywir ar gyfer y sgiliau cywir. Trafodwyd hefyd doriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb Gyrfa Cymru ac effaith hyn ar rôl a chylch gwaith y sefydliad.
Bydd y Pwyllgor nawr yn mynd ati i ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad er mwyn llywio a siapio ei waith yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y Pwyllgor, neu os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf amdano, ewch i dudalen y Pwyllgor ar y we.
Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddESS