Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – Digwyddiad Cyflwyno Rhanddeiliaid

Cyhoeddwyd 28/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2016

Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sydd newydd ei ffurfio, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i groesawu rhanddeiliaid. Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i randdeiliaid gyfarfod ag Aelodau newydd y Pwyllgor ac i siarad â hwy am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y Pwyllgor. I ddechrau, bu unigolion o sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Colegau Cymru yn gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle i glywed Aelodau’r Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gwrando ar ei flaenoriaethau a dysgu am gynnwys ei bortffolio. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, cyfarfu rhanddeiliad ag Aelodau’r Pwyllgor yng Nghanolfan yr Urdd lle cynhaliwyd digwyddiad ar ffurf ‘rhwydweithio carlam’. Neilltuwyd bwrdd i randdeiliaid o sectorau gwahanol ac Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor. Cafwyd trafodaethau ynghylch agweddau gwahanol ar gylch gwaith y Pwyllgor. [gallery ids="1465,1467" type="rectangular"] Trafodwyd yr angen i’r Pwyllgor edrych ar opsiynau gwahanol er mwyn gwneud newidiadau i ardrethi busnes a hefyd yr angen i ystyried rhanbarthau dinasoedd, eu pwrpas a pa ddulliau fyddai eu hangen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus. Roedd y trafodaethau am drafnidiaeth yn cynnwys trafod paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru ac ystyried pa welliannau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus integredig. Wrth drafod sgiliau cododd cwestiynau ynghylch a yw Cymru yn hyfforddi’r bobl gywir ar gyfer y sgiliau cywir. Trafodwyd hefyd doriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb Gyrfa Cymru ac effaith hyn ar rôl a chylch gwaith y sefydliad. Bydd y Pwyllgor nawr yn mynd ati i ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad er mwyn llywio a siapio ei waith yn ystod y pum mlynedd nesaf. Os hoffech ragor o wybodaeth am y Pwyllgor, neu os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf amdano, ewch i dudalen y Pwyllgor ar y we. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddESS