- Creu adran ar ein gwefan yn benodol ymwelwyr sydd ag awtistiaeth. Mae’r adran hon yn darparu lincs at adnoddau gwybodaeth a gynlluniwyd yn benodol mewn fformatau gwahanol;
- Sefydlwyd ardaloedd tawel dynodedig ar gyfer pobl ag awtistiaeth i orffwys ac ymlacio;
- Derbyniodd staff perthnasol hyfforddiant hyder o ran anabledd, sy’n cynnwys adran ar awtistiaeth;
- Nodwyd Pencampwyr Awtistiaeth ar draws y sefydliad;
- Sefydlwyd cysylltiadau gyda’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol;
- Crëwyd ffurflen adborth, er mwyn galluogi adborth parhaus gan ymwelwyr ag awtistiaeth.
Rydym yn falch o fod wedi cadw Gwobr Mynediad @Autism am yr ail flwyddyn yn olynol!
Cyhoeddwyd 16/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2015
Mae ystad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r Wobr yn safon arfer gorau ar gyfer adeiladau a chyfleusterau, a gynlluniwyd er mwyn rhoi sicrwydd i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n dangos bod y cyfleusterau’n hylaw i bobl ag awtistiaeth, a bod yna ymrwymiad i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu eu defnyddio.
[caption id="attachment_1173" align="alignright" width="300"] Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, a Sandy Mewies AC yn dal Gwobr Mynediad Awtistiaeth y Gymedeithas Awtistiaeth Genedlaethol[/caption]
"Mae hyn yn gydnabyddiaeth arall eto bod y Cynulliad Cenedlaethol o ddifrif am y mater o gydraddoldeb mynediad," meddai’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC.
"Er mwyn i ddemocratiaeth weithio’n iawn yng Nghymru, rhaid i’w sefydliad deddfu ymgysylltu â phawb yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb."
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb:
"Mae’r Wobr Mynediad Awtistiaeth yn dangos ymrwymiad y Cynulliad i fod yn lleoliad hygyrch ar gyfer ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.
Isod mae rhai o’r pethau a wnaeth y Cynulliad er mwyn cyflawni’r achrediad: