Rydym yn falch o fod wedi cadw Gwobr Mynediad @Autism am yr ail flwyddyn yn olynol!

Cyhoeddwyd 16/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2015

Mae ystad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r Wobr yn safon arfer gorau ar gyfer adeiladau a chyfleusterau, a gynlluniwyd er mwyn rhoi sicrwydd i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n dangos bod y cyfleusterau’n hylaw i bobl ag awtistiaeth, a bod yna ymrwymiad i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu eu defnyddio. [caption id="attachment_1173" align="alignright" width="300"]Autism Award photo - PO and SM Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, a Sandy Mewies AC yn dal Gwobr Mynediad Awtistiaeth y Gymedeithas Awtistiaeth Genedlaethol[/caption] "Mae hyn yn gydnabyddiaeth arall eto bod y Cynulliad Cenedlaethol o ddifrif am y mater o gydraddoldeb mynediad," meddai’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC. "Er mwyn i ddemocratiaeth weithio’n iawn yng Nghymru, rhaid i’w sefydliad deddfu ymgysylltu â phawb yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb." Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb: "Mae’r Wobr Mynediad Awtistiaeth yn dangos ymrwymiad y Cynulliad i fod yn lleoliad hygyrch ar gyfer ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Isod mae rhai o’r pethau a wnaeth y Cynulliad er mwyn cyflawni’r achrediad:
  • Creu adran ar ein gwefan yn benodol ymwelwyr sydd ag awtistiaeth.  Mae’r adran hon yn darparu lincs at adnoddau gwybodaeth a gynlluniwyd yn benodol mewn fformatau gwahanol;
  • Sefydlwyd ardaloedd tawel dynodedig ar gyfer pobl ag awtistiaeth i orffwys ac ymlacio;
  • Derbyniodd staff perthnasol hyfforddiant hyder o ran anabledd, sy’n cynnwys adran ar awtistiaeth;
  • Nodwyd Pencampwyr Awtistiaeth ar draws y sefydliad;
  • Sefydlwyd cysylltiadau gyda’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol;
  • Crëwyd ffurflen adborth, er mwyn galluogi adborth parhaus gan ymwelwyr ag awtistiaeth.
[caption id="attachment_1094" align="aligncenter" width="300"]Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth[/caption]   Bwriadu ymweld â’r Cynulliad? Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn, ar 0300 200 6565, neu e-bostiwch: cysylltu@cynulliad.cymru.