Aeth 6,948 o bobl i ddigwyddiadau ym Mhafiliwn y Cymdeithasau yn ystod yr wythnos.I bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl, daeth y Pierhead yn gartref i Shw'mae Caerdydd - y ganolfan i gael gwybodaeth am y Gymraeg - yn ystod yr ŵyl. Roedd y sesiynau'n cynnwys trafodaeth am dafodieithoedd Cymru, yn ogystal â gweithdai o ddawnsio'r glocsen i wneud hetiau. Ddydd Gwener 10 Awst, roedd Elin Jones, y Llywydd, ymhlith y rhai a anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd, yn ogystal â Jamie Roberts, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, a Geraint Jarman, y cerddor, a chyflwynwyd y wisg las iddi am ei gwasanaeth i'r wlad. Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn y Senedd yn ystod yr wythnos oedd y cyfle i ymweld â Siambr drafod y Cynulliad lle, am y tro cyntaf, y gallai ymwelwyr gael llun ohonynt eu hunain yn sedd y Llywydd. Manteisiodd mwy na 5,595 o bobl ar y cyfle unigryw hwn i gymryd rôl y Llywydd dros dro, a phrofi sut beth y gallai goruchwylio trafodion yn y Siambr fod.
#Senedd @eisteddfod Morfydd yn barod i waeddi ar yr ACiaid i gadw trefn pic.twitter.com/UWGHrBVkp1
— Llio Elgar (@llioelgar) 4 August 2018
First time in the Senedd chamber. What a treat- and what a way to get more people engaged in what @AssemblyWales does. #Eisteddfod2018 pic.twitter.com/dO9NMw59I9
— Jess Blair (@JessBlair7) 7 August 2018
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cynhaliwyd digwyddiad hefyd i groesawu Geraint Thomas adref, gan ddathlu ei gyflawniad rhyfeddol o fod y Cymro cyntaf erioed i ennill y Tour de France. Cafodd Geraint ei groesawu gan Elin Jones, y Llywydd, yn ei derbyniad blynyddol yn yr Eisteddfod, cyn cael ei gyfarch gan Catrin Heledd, Band Pres Llareggub, y band Siddi ac, yn olaf, y miloedd o gefnogwyr cyffrous a oedd wedi ymgynnull ar risiau'r Senedd. Yn ystod yr Eisteddfod, croesawyd mwy na 18,000 o ymwelwyr i'r Senedd, ac nid oedd mwy na hanner ohonynt wedi ymweld â'r Cynulliad o'r blaen, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi gadael ag ychydig mwy o wybodaeth am sut y mae datganoli yng Nghymru yn gweithio. Diolch yn fawr i'n partneriaid, sef y Comisiwn Etholiadol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Academi Morgan, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac, wrth gwrs, yr Eisteddfod am wneud y digwyddiadau yn ystod yr wythnos mor llwyddiannus. Fe'ch gwelwn yn Llanrwst! Artistiaid Y Lle Celf eleni oedd: Justine Allison, Billy Bagilhole, Jo Berry, Kelly Best, Zena Blackwell, Steve Buck, Ray Church, Nerea Martinez de Lecea, Cath Fairgrieve, Mark Houghton, Gethin Wyn Jones, Jin Eui Kim, Anna Lewis, Laura Lillie, Gweni Llwyd, James Moore, Marged Elin Owain, Zoe Preece, Glyn Roberts, John Rowley, André Stitt, Caroline Taylor, Jennifer Taylor, Sean Vicary, Adele Vye, Philippa Watkins a Casper WhiteYn falch fod pawb wedi mwynhau bod yn @yLlywydd am wythnos! Game over! I’m taking back control! @eisteddfod pic.twitter.com/UrCQgW4CDq
— Elin Jones (@ElinCeredigion) 12 August 2018