Steddfod yn y Senedd

Cyhoeddwyd 28/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/08/2018

Yn ystod mis Awst 2018, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o chwarae rhan hanfodol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni drwy gynnal amrywiaeth o arddangosfeydd, trafodaethau a digwyddiadau a oedd yn ymdrin â bywyd Cymru. Wedi'i galw'n Eisteddfod heb ffens, daeth y Senedd yn gartref i'r Lle Celf a Phafiliwn y Cymdeithasau. Eisteddfod yn y Senedd Mae'r Eisteddfod wedi cynnal arddangosfa celf a chrefft ar ryw ffurf ers 1865. Y dyddiau hyn, mae'r Lle Celf yn cynnwys arddangosfa aml-gyfrwng o gelfyddyd gain a chelfyddyd gymhwysol gyfoes, a dathliad o bensaernïaeth yng Nghymru. Ymysg yr arddangosion eleni oedd serameg ddeniadol Jin Eui Kim, enillydd Gwobr Tony Globe 2018, paentiadau Philip Watkins o fywyd y cymoedd a darnau seramig a phren Zoe Preece, enillydd Medal Aur 2018 a gwobr Dewis y Bobl, ynghyd â llawer o ddarnau eraill a oedd yn ysgogi meddwl. Gan orchuddio llawer o lawr y Senedd, gallwch wylio gosodiad enfawr André Stitt yn cael ei adeiladu yn y fideo treigl amser hwn: [wpvideo osQJIR5z] Cynhaliodd Pafiliwn y Cymdeithasau yn y Cynulliad drafodaethau ar faterion a oedd yn cynnwys cyni, rôl menywod ym maes gwleidyddiaeth, pleidleisio yn 16 oed, democratiaeth a'r celfyddydau, diwygio etholiadol a chyfiawnder yng Nghymru. Os gwnaethoch eu colli y tro cyntaf, gallwch eu gwylio eto yma: Democratiaeth a’r Celfyddydau: effaith y naill ar y llall Mae Democratiaeth a’r Celfyddydau yn chwarae rôl ganolog ym mywydau pobl Cymru - ond sut maent yn effeithio ar ei gilydd? Cadeiriodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, banel trafod yng nghwmni Bethan Sayed AC, sef Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad, yr arlunydd Elin Meredydd, ac Eddie Ladd, cyflwynydd ac artist dawnsio a pherfformio blaenllaw. Mae democratiaeth a'r celfyddydau Barod am y bleidlais? Digwyddiad mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol yw hwn, yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau yng Nghymru. Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru, yng nghwmni’r panelwyr: Elin Jones AC, y Llywydd; Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; a phobl ifanc gan gynnwys Ethan Williams, Is-lywydd Urdd Gobaith Cymru ac Is-gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, Fforwm Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd. Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth Nodwyd 100 mlynedd ers yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau’r bleidlais i fenywod, ac ymunodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Dr Elin Jones yr hanesydd, i drafod dylanwad menywod ar wleidyddiaeth yng Nghymru, yn y gorffennol a’r presennol. Bethan Rhys Roberts, y newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu, oedd yn cadeirio. Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth
Aeth 6,948 o bobl i ddigwyddiadau ym Mhafiliwn y Cymdeithasau yn ystod yr wythnos.
I bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl, daeth y Pierhead yn gartref i Shw'mae Caerdydd - y ganolfan i gael gwybodaeth am y Gymraeg - yn ystod yr ŵyl. Roedd y sesiynau'n cynnwys trafodaeth am dafodieithoedd Cymru, yn ogystal â gweithdai o ddawnsio'r glocsen i wneud hetiau. Ddydd Gwener 10 Awst, roedd Elin Jones, y Llywydd, ymhlith y rhai a anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd, yn ogystal â Jamie Roberts, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, a Geraint Jarman, y cerddor, a chyflwynwyd y wisg las iddi am ei gwasanaeth i'r wlad. Y Lle Celf yn y Senedd, Barod am y bleidlais? Gorsedd y Beirdd Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn y Senedd yn ystod yr wythnos oedd y cyfle i ymweld â Siambr drafod y Cynulliad lle, am y tro cyntaf, y gallai ymwelwyr gael llun ohonynt eu hunain yn sedd y Llywydd. Manteisiodd mwy na 5,595 o bobl ar y cyfle unigryw hwn i gymryd rôl y Llywydd dros dro, a phrofi sut beth y gallai goruchwylio trafodion yn y Siambr fod.       Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cynhaliwyd digwyddiad hefyd i groesawu Geraint Thomas adref, gan ddathlu ei gyflawniad rhyfeddol o fod y Cymro cyntaf erioed i ennill y Tour de France. Cafodd Geraint ei groesawu gan Elin Jones, y Llywydd, yn ei derbyniad blynyddol yn yr Eisteddfod, cyn cael ei gyfarch gan Catrin Heledd, Band Pres Llareggub, y band Siddi ac, yn olaf, y miloedd o gefnogwyr cyffrous a oedd wedi ymgynnull ar risiau'r Senedd. Geraint-Thomas-Senedd Yn ystod yr Eisteddfod, croesawyd mwy na 18,000 o ymwelwyr i'r Senedd, ac nid oedd mwy na hanner ohonynt wedi ymweld â'r Cynulliad o'r blaen, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi gadael ag ychydig mwy o wybodaeth am sut y mae datganoli yng Nghymru yn gweithio. Diolch yn fawr i'n partneriaid, sef y Comisiwn Etholiadol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Academi Morgan, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac, wrth gwrs, yr Eisteddfod am wneud y digwyddiadau yn ystod yr wythnos mor llwyddiannus. Fe'ch gwelwn yn Llanrwst!   Artistiaid Y Lle Celf eleni oedd: Justine Allison, Billy Bagilhole, Jo Berry, Kelly Best, Zena Blackwell, Steve Buck, Ray Church, Nerea Martinez de Lecea, Cath Fairgrieve, Mark Houghton, Gethin Wyn Jones, Jin Eui Kim, Anna Lewis, Laura Lillie, Gweni Llwyd, James Moore, Marged Elin Owain, Zoe Preece, Glyn Roberts, John Rowley, André Stitt, Caroline Taylor, Jennifer Taylor, Sean Vicary, Adele Vye, Philippa Watkins a Casper White