Mae’n bosibl eich bod wedi clywed y bydd etholiad nesaf Senedd Cymru, a gaiff ei gynnal ar 7 Mai 2026, yn wahanol i etholiadau’r gorffennol, ond beth fydd yn newid?
Dyma ganllaw cyflym:
- 96 Aelod
O’r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn lle 60. - System bleidleisio newydd
Bydd gan bawb 16+ oed un bleidlais, i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. - Etholaethau newydd
Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob etholaeth.
Pam fydd y newidiadau hyn yn digwydd?
Mae'r Senedd wedi bod ar daith hir ers ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl. Mae ganddi bellach fwy o bwerau i ddeddfu ar bethau sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd, fel ysbytai, addysg a thrafnidiaeth.
Bydd cael 96 o Aelodau yn cynyddu gallu’r Senedd i graffu ar wariant a chynlluniau Llywodraeth Cymru, a’u herio. Bydd hefyd yn golygu y bydd y Senedd yn debycach i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru, fel yr Alban, sydd â 129 o Aelodau, a Gogledd Iwerddon, sydd â 90.
Ar ôl yr etholiad, bydd chwe Aelod yn eich cynrychioli chi, gan roi mwy o ddewis i chi o ran y bobl y gallwch gysylltu â hwy os oes gennych broblem neu bryder.
Pwy wnaeth y penderfyniad bod angen newid?
Cafodd y gyfraith sy’n rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn y Senedd ei chynnig gan Lywodraeth Cymru. Roedd y cynigion yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a gafodd eu cyhoeddi yn 2022.
Gwnaeth y Pwyllgor ystyried 20 mlynedd o waith ymchwil blaenorol, gan gynnwys y canlynol:
- 2004: Comisiwn Richard
- 2014: Comisiwn Silk
- 2017: Y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
- 2020: Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Roedd yr holl adroddiadau hyn yn cydnabod yr angen am newid a thwf.
A gafodd pobl yng Nghymru eu holi ynghylch y newidiadau?
Mae'r newidiadau i'r Senedd wedi bod yn destun nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus.
Gadewch inni edrych yn agosach at y sefyllfa:
- 2011
Mewn pleidlais gyhoeddus (refferendwm), dywedodd 63.5 y cant o bleidleiswyr eu bod o blaid rhoi mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad, fel ag yr oedd ar y pryd. - 2018
Ymatebodd dros 3,200 o bobl i ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gomisiwn y Senedd ynghylch y cynigion i newid y system bleidleisio, pwy ddylai fod yn gymwys i bleidleisio, a nifer yr Aelodau. Darllenwch fwy, gan gynnwys rhai o'r ymatebion. - 2020
Cynhaliodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ymgynghoriadau cyhoeddus ar gapasiti'r Senedd, ethol Senedd fwy amrywiol, a systemau a ffiniau etholiadol.
Gallwch ddarllen argymhellion y Pwyllgor a rhagor o wybodaeth am y broses o gasglu tystiolaeth yn ei adroddiad. - 2023
Gwnaeth Pwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd wahodd safbwyntiau ynghylch y gyfraith arfaethedig y byddai ei hangen er mwyn gwneud y newidiadau dan sylw.
Gallwch ddarllen yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad ac adroddiad y Pwyllgor ar wefan y Senedd. - 2024
Cynhaliodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ddau ymgynghoriad ynghylch yr etholaethau newydd, a daeth cyfanswm o bron i 5,000 o ymatebion i law. Ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf, gwnaeth y comisiwn newidiadau i'w gynigion, gan gynnwys defnyddio enwau gwahanol ar gyfer 14 etholaeth.
Gallwch ddarllen mwy am waith y comisiwn a’r ymatebion a ddaeth i law ar ei wefan.