Teithio Llesol. Beth nesaf?

Cyhoeddwyd 07/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2018

Yn yr wythnosau diwethaf, gofynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, yr wyf yn ei gadeirio, i bobl beth yw eu rhesymau dros gerdded a beicio a’u rhesymau dros beidio â gwneud. Cysylltodd dros 2,500 o bobl â ni i rannu eu profiadau. Yn gyntaf, diolch i bawb a gymerodd amser yn llenwi’r arolwg neu’n cymryd rhan mewn sesiwn grŵp ffocws. Mae’n bwysig iawn i bob un o aelodau’r pwyllgor ein bod yn deall yr heriau rydych chi’n eu hwynebu wrth ddewis teithio’n llesol. Dywedodd 60% ohonoch sydd eisoes yn deithwyr llesol nad yw beicio’n ddiogel, a dywedodd 67% fod nifer y llwybrau beicio’n wael. Fe wnaeth yr ystadegyn hwn ein synnu. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn siarad ag awdurdodau lleol, grwpiau ymgyrchu, ac arbenigwyr ym meysydd yr amgylchedd adeiledig, iechyd ac anabledd. Byddwn yn rhannu eich barn chi â nhw ac yn gofyn cwestiynau  ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru wneud i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ddarparu llwybrau cerdded a beicio gwell i bobl Cymru. Ar 21 Mawrth, byddwn yn trafod y mater gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet.  Caiff ein hadroddiad a’n hargymhellion eu cyhoeddi’n fuan wedi hynny. Rwy’n edrych ymlaen at eu rhannu gyda chi.   Russell George AC Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau   [wpvideo HEgmHLXr]