'The Soldier's Own Diary' – darlun llawn cyfrinachau

Cyhoeddwyd 08/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/11/2018

Mae'r artistiaid Scarlett Raven a Marc Marot ymhlith yr artistiaid cyntaf yn y byd i arbrofi â realiti estynedig, wrth iddynt gymysgu celf gain â thechnoleg er mwyn adrodd straeon dwys ynghylch y Rhyfel Mawr drwy farddoniaeth, animeiddiadau a cherddoriaeth. [caption id="attachment_3287" align="alignnone" width="750"] "The Soldiers Own Diary"[/caption] Mae Scarlett yn angerddol ynglŷn â lliw, ac mae ei dull dynamig yn aml yn golygu ei bod yn defnyddio ei dwylo yn hytrach na brwsh i baentio paent olew. Mae ei llinellau ysgubol yn creu symudiad a chyfeiriad, gyda'r artist yn cael ei chymharu ag Anselm Kiefer a Jackson Pollock. Dywed Scarlett:
"Mae'r paent yn cael ei daflu, ei dasgu a'i fflicio. Pan fydd yn glanio, mae'n dal y blodau sy'n chwythu yn y gwynt. Rhaid i'r symudiad fod ym mhob haen, felly pan fyddwch chi'n camu'n ôl, byddwch chi'n teimlo bod y tirlun yn fyw. Mae'n creu byd o hud a lledrith.”
Dywed Marc Marot, a gafodd yrfa lwyddiannus fel rheolwr label cyn ymuno â'r peintiwr olew Scarlett:
“Mae ein gwaith yn cael ei yrru'n fawr gan emosiwn, a'r pŵer yw galluogi ein cynulleidfa i ymdrochi ei hun mewn teimladau pwerus iawn. Mae'n eu cymryd nhw allan o'r presennol. Nid arddangosfa sydd gennym, ond profiad gweledol.”
Eu creadigaeth ddiweddaraf yw 'The Soldier's Own Diary', sef paentiad olew unigryw sydd, wrth edrych arno drwy app Blippar, yn adrodd stori arbennig carcharor rhyfel o'r enw Robert Phillips o Gwmbrân. Bydd derbyniad byr a chyfle i weld y ddwy arddangosfa sy'n ategu ein Darlith Goffa: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=97TyNtgsE68&w=560&h=315] Ganed Robert Phillips yn Nhredegar Newydd ym 1893. Ymunodd â'r Gatrawd Gymreig ym 1914, ond wedi ymosodiad nwy cafodd ei ddal yn Ypres a'i anfon i weithio mewn gwersyll 200 milltir i ffwrdd yn Homburg yng Ngorllewin yr Almaen. Ym 1916, ar ôl cael ei ddal yn yr Almaen am 15 mis, fe lwyddodd i ddianc gan gychwyn cerdded tuag adref i Gymru. Roedd un o'i gyd-garcharorion yn astrolegydd, a dysgodd Robert sut i wneud ei ffordd am y gogledd tua'r Iseldiroedd gan ddefnyddio'r sêr i'w arwain.  Bu wrthi am fisoedd yn cerdded gyda'r nos, gan ddwyn ieir a wyau i oroesi'r siwrne, cyn cyrraedd Cymru o'r diwedd yng ngaeaf 1916. Hoffai'r artistiaid Scarlett a Marc ddiolch i wyres Robert, Lynda Osbourne, am ganiatau iddynt ymweld â'i chartref er mwyn dysgu amdano a chymryd ffotograffau o arteffactau grweiddiol. Ymhlith yr arteffactau oedd ei ddyddiadur, yr ysgrifennodd ynddo ym 1917 ar ôl dychwelyd i Gymru ac a esgorodd ar enw'r paentiad. Roedd mam Marc yn hanu o Wrecsam, a chyn iddi farw yn 2015 gofynnodd i Marc addo y byddai'n creu paentiad â Chymru'n ganolbwynt iddo, ac felly mae 'The Soldier's Own Diary' er cof amdani hi ac am aberth y gwŷr dewr o Gymru. Mae Castle Fine Art yng Nghaerdydd, sy'n cynrychioli'r artistiaid, yn garedig iawn wedi benthyg y darn i ni yn barod ar gyfer Dydd y Cofio i'w weld gan bobl Cymru, y gall llawer ohonynt uniaethu â stori’r Milwr Phillips.

____________________________________________

Mae 'The Soldier's Own Diary' yn rhan o'n rhaglen Dydd y Cofio 2018, ynghyd â 'Mudiad y Bleidlais i Fenywod yng Nghymru'. Roedd mudiad y bleidlais i fenywod yn gweithredu am dros 60 mlynedd ym Mhrydain, ac enillwyd etholfraint rannol ym 1918 a hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o'r diwedd, 10 mlynedd yn ddiweddarach.  Nod yr arddangosfa hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hirfaith, amlbwrpas hon, y ffotograffau, y delweddau a'r arteffactau sy'n ceisio dangos rhai o'i phrif elfennau. Arddangosfeydd: 'The Soldier's Own Diary' gan Scarlett Raven a Marc Marot / 'Mudiad y Bleidlais i Fenywod yng Nghymru' Dyddiad: 1-25 Tachwedd 2018 Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd [caption id="attachment_3289" align="alignnone" width="1024"]O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918 O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918. Copyright: MediaWales[/caption] Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor: Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30 Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30. Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan. Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Tudalen Facebook y Senedd.