Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Comisiwn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/07/2017

Diben Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cynulliad yw nodi ein hamcanion amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer 2017-21 a'r camau y mae angen inni eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn. Bydd y strategaeth hefyd yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a roddwyd ar Gomisiwn y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a hefyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gwmpasu pob un o'r nodweddion gwarchodedig a materion eraill fel cyfrifoldebau gofalu, symudedd cymdeithasol ac anghydraddoldebau eraill. 28447432903_d9001b7ecd_o Mae'n bwysig i ni bod y Cynulliad yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru a thu hwnt: gan ei gwneud yn berthnasol, hawdd ac ystyrlon i bobl ryngweithio ag ef a chyfrannu at ei waith. Mae hefyd yn bwysig inni ein bod yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan alluogi pawb a gyflogwn i wireddu eu llawn botensial. Rydym wrthi'n gorffen llunio ein cynllun gweithredu sy'n rhoi manylion am ba weithgareddau sydd angen eu dilyn er mwyn cyflawni'r amcanion a sut y byddwn yn monitro ein cynnydd a'n llwyddiant wrth eu cyflawni. Byddwn yn sicrhau bod ein staff yn deall y rhan y maent yn ei chwarae wrth helpu ein sefydliad i gyflawni ein hamcanion amrywiaeth a chynhwysiant a gwireddu ein gweledigaeth amrywiaeth a chynhwysiant. Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Amrywiaeth a Chynhwysiant Blynyddol sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ein hamcanion. Rydym wedi nodi pum amcan amrywiaeth a chynhwysiant ac yma rydym yn nodi crynodeb o weithgareddau a gynlluniwyd: Amcan Un: Meithrin Arweinyddiaeth Gynhwysol a Diwylliant Cynhwysol yn y Gweithle Byddwn yn sicrhau atebolrwydd uwch, arweinyddiaeth gynhwysol, ac yn parhau i gefnogi a datblygu ein Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle (WENs). Amcan Dau: Adeiladu ar ein Dull o Ddatblygu'r Sefydliad Byddwn yn canfod cyfleoedd i nodi a chodi ymwybyddiaeth o rwystrau posibl i gynhwysiant drwy gydweithio â'n rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle, parhau i ddefnyddio asesiadau effaith ar gydraddoldeb, a chynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth priodol eraill fel ein Hwythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant flynyddol. Byddwn yn parhau i feincnodi ein gwaith amrywiaeth a chynhwysiant o’i gymharu â sefydliadau eraill drwy gynnal adolygiadau cymheiriaid a gweithgareddau eraill i sicrhau cydnabyddiaeth allanol. Byddwn yn sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant i'w helpu i wireddu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn gysylltiedig ag amrywiaeth a chynhwysiant drwy gydol eu cyflogaeth. Bydd polisïau’r gweithle yn parhau i gael eu drafftio a'u hadolygu mewn modd cynhwysol, gan gynnwys bod yn destun asesiad o effaith ar gydraddoldeb, sy'n cynnwys cyfraniad gan ein rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle. IMG_7808 Amcan Tri: Cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a'u Staff i Gynnwys Amrywiaeth yn eu Gwaith Cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a'u staff i gynnwys amrywiaeth yn eu rolau fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth ac yn eu gwaith fel gweithwyr achos, craffwyr a deddfwyr. Byddwn yn parhau i fwydo ystyriaethau amrywiaeth a chynhwysiant i waith Bwrdd Taliadau annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes a Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgorau i ymchwilio sut i gryfhau'r ffyrdd yr ystyrir amrywiaeth a chynhwysiant yng ngweithdrefnau ac arferion busnes y Cynulliad ac wrth ddeddfu i arfer unrhyw bwerau datganoledig newydd i'r Cynulliad. Rydym am ehangu cyrhaeddiad y Cynulliad i gynnwys unigolion a chymunedau nad ydynt yn ymgysylltu â gwaith y Cynulliad na gwaith Aelodau’r Cynulliad ar hyn o bryd. Rydym am sicrhau ei bod yn gynyddol haws cael gafael ar wybodaeth am y Cynulliad a'i waith, a bod y wybodaeth honno’n ystyrlon i bobl Cymru. Byddwn hefyd yn adolygu polisïau a threfniadau yn rheolaidd ar gyfer ymwelwyr â'r Cynulliad, i sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn hybu mynediad i bawb. Amcan Pedwar: Cynorthwyo Staff Comisiwn y Cynulliad i gynnwys Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eu gwaith Er mwyn sicrhau bod cynhwysiant wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ar draws gwasanaethau, byddwn yn sicrhau bod asesiadau o effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cynnal pryd bynnag y byddwn yn newid rhywbeth neu'n dechrau rhywbeth newydd. Bydd cynllunio gwasanaethau yn ystyried sut y bydd meysydd gwasanaeth yn cyflawni’r amcanion a nodwyd yn y strategaeth hon, pan fo'n briodol.  Bydd y dull hwn yn sicrhau bod ystyriaethau amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ein gwaith bob dydd. Byddwn yn ystyried amrywiaeth a chynhwysiant wrth brynu nwyddau a gwasanaethau 8550944973_9a441ae52d_o Amcan Pump: Ymddwyn fel Cyflogwr Cynhwysol sy'n denu ac yn cadw'r gronfa ehangaf o dalent lle mae pob aelod o staff yn cael cyfle i wireddu ei botensial llawn Rydym yn cydnabod bod pob aelod o'n gweithlu talentog, waeth beth fo'i gefndir, yn haeddu gwireddu ei lawn botensial a symud ymlaen yn ei yrfa. Rydym yn parhau i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd yng nghynrychiolaeth cydweithwyr BME a chydweithwyr anabl yn enwedig ar lefel uwch reolwyr. Byddwn yn cefnogi ein staff presennol ac yn addasu ein trefniadau hysbysebu wrth recriwtio, pan fo angen, gan archwilio gweithgareddau allgymorth ym maes cyflogaeth a ph'un a fyddai’n fuddiol archwilio a defnyddio mentrau gweithredu cadarnhaol. Byddwn hefyd yn parhau i adolygu ein prosesau recriwtio a dethol cyffredinol i nodi a dileu unrhyw rwystrau rhag cynhwysiant. Rydyn yn casglu a defnyddio data amrywiaeth yn ymwneud â'r gweithlu, recriwtio a thâl i nodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Am unrhyw wybodaeth bellach am ein strategaeth, cysylltwch â  amrywiaeth@cynulliad.cymru