Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Tynnu coes, aflonyddu ac ymddygiad amhriodol

Cyhoeddwyd 05/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2017

Mae gan bawb ohonom yr hawl i weithio mewn amgylchedd sy'n rhydd o aflonyddu a bwlio, ac i gael ein trin yn deg, gydag urddas a pharch. Ni ellir goddef aflonyddu a bwlio am eu bod yn tanseilio hyder, yn gallu effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol, yn digalonni ac yn niweidio cydlyniad, cynhyrchiant ac effeithiolrwydd timau. Mae'r llinell yn denau rhwng awyrgylch ysgafn hwyliog ymhlith tîm cynhyrchiol a gweithwyr sy'n mynd yn rhy bell ac yn arwain at hawliadau yn erbyn y busnes. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod yn rhaid i unrhyw ddiwylliant yn y gweithle neu dynnu coes yn y swyddfa beidio â thramgwyddo nac ynysu aelodau o staff a bod yn rhaid i unrhyw jôcs, llysenwau neu sgyrsiau beidio ag ymwneud ag unrhyw nodwedd warchodedig (oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, beichiogrwydd, hil, crefydd/cred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol). Mae gan y Cynulliad bolisi Urddas yn y Gwaith nad yw'n goddef unrhyw ymddygiad o'r fath. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng tynnu coes ac aflonyddu? Gellir diffinio tynnu coes fel pryfocio neu dynnu coes o natur dda nad yw'n tramgwyddo unrhyw un. Mae aflonyddu yn eiriau neu ymddygiad digroeso, sy'n peri gofid a niwed. Mae’n ymddygiad digroeso sydd â’r diben neu’r effaith o darfu ar urddas rhywun neu sy’n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus. Mae'n bwysig cofio bod aflonyddu yn cynnwys ymddygiad na allai fod yn fwriadol ond sydd, serch hynny, yn cael yr effaith o aflonyddu ar unigolyn. Nid yw'r ffaith nad oedd unigolyn wedi bwriadu peri tramgwydd neu loes yn esgus derbyniol. Bydd synnwyr cyffredin, cyd-destun, chwaeth a pherthynas unigolion â'i gilydd fel arfer yn pennu pa sylwadau sydd yn bleserus ac yn dderbyniol. Weithiau gall ffrindiau a chydweithwyr da feithrin perthynas sy'n cynnwys tynnu coes ei gilydd yn rheolaidd. Ond peidiwch â defnyddio’r dull hwn o hiwmor yn anad dim arall. Mae'n aml yn reddf naturiol i rywun gyd-chwerthin gan esgus nad yw'r sylwadau yn ei boeni, pan fo'r gwrthwyneb yn wir. Yn aml gall tynnu coes eithafol ddigwydd rhwng ffrindiau agos, ond cofiwch bob amser stopio i feddwl a allai achosi tramgwydd i rywun arall a allai fod wedi ymuno â'r sgwrs yn ddiweddarach, neu rywun a allai fod o fewn clyw. Yn aml, mae timau o weithwyr wedi bod gyda'i gilydd am gyfnod hir ac wedi datblygu diwylliant o dynnu coes neu gyfnewid sylwadau ffraeth. Os oes unrhyw rai o'r sylwadau hyn yn annymunol eu naws ac wedi'u hanelu at ddosbarth sy'n cael ei warchod, efallai y bydd gennych sefyllfa anghyfreithlon yn eich gweithle. A ydych yn ymddwyn yn amhriodol? A yw'n bosibl nad ydych yn ymwybodol o effaith eich ymddygiad ar bobl eraill? Dyma enghreifftiau o ymadroddion na ddylid eu defnyddio i esgusodi, neu guddio, ymddygiad, sydd, mewn gwirionedd, yn gyfystyr â bwlio:
  • 'Dull rheoli cryf neu gadarn'
  • 'Gwrthdaro personoliaeth'.
  • Disgrifio rhywun yn 'orsensitif' neu 'methu'n â chymryd jôc'.
  • Rheolwr nad yw'n 'goddef ffyliaid.'
  • 'Tasgfeistr caled.'
Ystyriwch swydd y person arall: a yw mewn swydd is na chi? A yw newydd ymuno â'r tîm? A yw mewn lleiafrif yn y tîm, ee menyw sy'n gweithio mewn amgylchedd o ddynion yn bennaf? Gall yr holl bethau hyn wneud iddynt deimlo'n fwy sensitif i sylwadau, ac yn llai abl i gwyno am y mater. Meddyliwch am weddill eich tîm. Nid yw’r sylwadau a wnewch yn bodoli ar wahân, maent hefyd yn cyfrannu at amgylchedd lle mae'r math hwnnw o hiwmor yn cael ei dderbyn. Efallai mai dim ond un jôc y gwnewch chi, ond os mai chi yw'r degfed i wneud jôc debyg y diwrnod hwnnw, bydd synnwyr digrifwch y derbynnydd yn darfod yn gyflym. Os oes un person bob amser yn destun tynnu coes yn y swyddfa, peidiwch ag aros i Adnoddau Dynol ddweud wrthych am beidio. Byddwch yn arbennig o ofalus yn achos negeseuon e-bost. Mae'n rhy hawdd anfon jôc neu fideo 'doniol' at sawl derbynnydd ar unwaith, ond os bydd yn tramgwyddo rhai ohonynt, yna dydy dweud mai dim ond ei throsglwyddo oeddech chi yn fawr o esgus. Mae gennym reolau arbennig ynglŷn â defnyddio systemau TG, a bydd trywydd papur yn dangos yn union beth rydych wedi'i anfon. Os na fyddech yn hapus i gynnwys y pennaeth adnoddau dynol a'r pennaeth TG yn y neges, peidiwch â'i hanfon. Dyma reol dda – dychmygwch eich sylw yn cael ei ddarllen gan fargyfreithiwr craff o flaen barnwr llym. Heb gyd-destun y jôc a'r sylwadau nôl-a-mlaen rhwng cydweithwyr, mae unrhyw beth sy'n agos at yr asgwrn yn mynd i swnio'n llawer gwaeth. Os bydd eich rheolwr yn cymryd camau disgyblu yn eich erbyn am sylwadau yr ydych wedi'u gwneud, fel arfer mae'n well ymddiheuro, gan addo bod yn fwy sensitif yn y dyfodol. Mae hyn yn rhoi'r mater yn ôl yn eu dwylo hwy, ac fel arfer bydd hyn yn well i chi na mynnu nad ydych wedi gwneud unrhyw beth o'i le oherwydd mai “dim ond jôc” oedd yr holl beth – cofiwch, nid yw hyn yn amddiffyniad! Beth allwch chi ei wneud os byddwch yn gweld ymddygiad amhriodol neu'n profi ymddygiad amhriodol? Mae gan bolisi Urddas yn y Gweithle Comisiwn y Cynulliad yr egwyddorion canlynol ar waith:
  • Dylid annog gweithwyr i godi eu pryderon gyda'r rheolwyr naill ai'n anffurfiol neu drwy gŵyn ffurfiol.
  • Dylai gweithwyr fod yn gwbl glir y bydd unrhyw dynnu coes neu ymddygiad sy'n cael ei ystyried yn annerbyniol yn arwain at gamau disgyblu.
  • Rhaid i reolwyr beidio â sefyll o'r neilltu a goddef ymddygiad sy'n amlwg yn sarhaus, ond dylent yn hytrach gymryd camau i'w atal. Rhaid i reolwyr sy'n clywed neu'n gweld unrhyw ymddygiad a allai fod yn sarhaus gymryd camau i fynd i'r afael ag ef neu sicrhau nad yw'n digwydd eto.
  • Rhowch wybod i'ch tîm cyfan am y gwahaniaeth rhwng tynnu coes yn y gweithle ac aflonyddu geiriol go-iawn. Peidiwch â derbyn esgusodion fel, “Dim ond jôc oedd e” neu “Rydyn ni wastad wedi siarad fel hyn.” Mynnwch ddiwylliant o oddef dim yn eich gweithle, a rhowch wybod i bawb ar eich tîm am hynny.
  • Heriwch iaith ac ymddygiad amhriodol ac annerbyniol. Os na wnewch chi herio, gallech gael eich ystyried fel petaech yn cefnogi'r ymddygiad.
  • Ymchwiliwch ar unwaith i unrhyw gyhuddiadau o aflonyddu i sicrhau bod yr holl fanylion gennych. Os bydd gweithiwr wedi bod yn aflonyddu ar bobl eraill, rhaid ichi gymryd camau priodol i unioni'r sefyllfa ar unwaith.
 Ffynonellau: http://smallbusiness.chron.com/difference-between-verbal-harassment-workplace-banter-35576.html  http://www.walesonline.co.uk/news/legal-guide-workplace-banter-crosses-7659431 http://www.cityjobs.com/cityblog/2013/04/17/avoid-office-banter-harassment-workplace/