- cyrraedd y pumed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2017, cael ein dyfarnu fel y cyflogwr sector cyhoeddus gorau yn y DU, ac wedi ein henwi fel y sefydliad gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Hefyd, enwyd Ross Davies, ein Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, fel Cynghrair y Flwyddyn Stonewall Cymru;
- cadw ein gwobr gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am fod yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth sy'n ystyriol o awtistiaeth;
- cael ein rhestru fel un o'r 10 cyflogwr gorau yn y Du o ran bod yn ystyriol o deuluoedd gan y sefydliad Working Families;
- cael ein dynodi fel Cyflogwr Hyderus Anabledd a Chyflogwr sy'n gadarnhaol am heneiddio;
- cadw Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, y dyfarniad rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth fyd-eang. Mae sefydliadau sy'n cyrraedd y safon orau o ran cydnabyddiaeth ryngwladol yn dangos y gwaith gorau oll wrth reoli pobl a thrwy gael y wobr aur rydym ni'n dangos ein nod parhaus o fod yn gyflogwr dewis cyntaf.
- ennill gwobrau rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru ar gyfer ein gwasanaeth i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar y clyw; ac
- cael ein gwobrwyo Marc Siarter 'Yn Uwch na Geiriau' yr elusen Action on Hearing Loss.
Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Y Cynulliad fel Cyflogwr Cynhwysol
Cyhoeddwyd 06/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Rydym yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cynhwysol sy'n cefnogi anghenion pawb sy'n gweithio yma. Mae gennym nifer o dimau, polisïau a gweithdrefnau ar waith i'n helpu i ddatblygu diwylliant cynhwysol, ac i sicrhau bod ein staff yn cael eu cefnogi, ac yn gallu mynegi eu hunain a chyflawni eu potensial.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb,”
Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhwydweithiau yn y gweithle
Mae ein rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle yn ein helpu i hyrwyddo cynhwysiant yn fewnol ac yn allanol drwy fwrw ymlaen ag ymgyrchoedd dros amrywiaeth, gan ddarparu cefnogaeth gan gynghreiriaid, rhannu arfer gorau a thrwy helpu Comisiwn y Cynulliad i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith.
Maent yn cynnig lle er mwyn i bobl sy'n uniaethu â grŵp nodwedd warchodedig a/neu sydd â diddordeb mewn materion sy'n ymwneud â mater amrywiaeth penodol, ddod at ei gilydd. Maent yn helpu i sicrhau amgylchedd gwaith diogel, cynhwysol ac amrywiol ar gyfer bawb. Yr wythnos hon, rydym yn lansio MINDFUL, ein rhwydwaith iechyd meddwl a lles meddyliol.
Cydnabyddiaeth allanol
Rydym wedi cael nifer o wobrau sy'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi ein staff, creu amgylchedd gwaith cynhwysol a darparu gwasanaethau cynhwysol. Mae'r safonau hyn yn cydnabod y polisïau staff blaengar sydd gennym ar waith ac sy'n ein helpu i gynnal arferion gorau. Mae ein llwyddiannau diweddar yn cynnwys: