Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant: Y Cynulliad fel Cyflogwr Cynhwysol

Cyhoeddwyd 06/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/07/2017

Rydym yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cynhwysol sy'n cefnogi anghenion pawb sy'n gweithio yma. Mae gennym nifer o dimau, polisïau a gweithdrefnau ar waith i'n helpu i ddatblygu diwylliant cynhwysol, ac i sicrhau bod ein staff yn cael eu cefnogi, ac yn gallu mynegi eu hunain a chyflawni eu potensial. "Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb,” Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhwydweithiau yn y gweithle Mae ein rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle yn ein helpu i hyrwyddo cynhwysiant yn fewnol ac yn allanol drwy fwrw ymlaen ag ymgyrchoedd dros amrywiaeth, gan ddarparu cefnogaeth gan gynghreiriaid, rhannu arfer gorau a thrwy helpu Comisiwn y Cynulliad i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith. Maent yn cynnig lle er mwyn i bobl sy'n uniaethu â grŵp nodwedd warchodedig a/neu sydd â diddordeb mewn materion sy'n ymwneud â mater amrywiaeth penodol, ddod at ei gilydd. Maent yn helpu i sicrhau amgylchedd gwaith diogel, cynhwysol ac amrywiol ar gyfer  bawb. Yr wythnos hon, rydym yn lansio MINDFUL, ein rhwydwaith iechyd meddwl a lles meddyliol. Cydnabyddiaeth allanol Rydym wedi cael nifer o wobrau sy'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi ein staff, creu amgylchedd gwaith cynhwysol a darparu gwasanaethau cynhwysol. Mae'r safonau hyn yn cydnabod y polisïau staff blaengar sydd gennym ar waith ac sy'n ein helpu i gynnal arferion gorau. Mae ein llwyddiannau diweddar yn cynnwys:
  • cyrraedd y pumed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2017, cael ein dyfarnu fel y cyflogwr sector cyhoeddus gorau yn y DU, ac wedi ein henwi fel y sefydliad gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Hefyd, enwyd Ross Davies, ein Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, fel Cynghrair y Flwyddyn Stonewall Cymru;
  • cadw ein gwobr gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am fod yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth sy'n ystyriol o awtistiaeth;
  • cael ein rhestru fel un o'r 10 cyflogwr gorau yn y Du o ran bod yn ystyriol o deuluoedd gan y sefydliad Working Families;
  • cael ein dynodi fel Cyflogwr Hyderus Anabledd a Chyflogwr sy'n gadarnhaol am heneiddio;
  • cadw Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, y dyfarniad rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth fyd-eang. Mae sefydliadau sy'n cyrraedd y safon orau o ran cydnabyddiaeth ryngwladol yn dangos y gwaith gorau oll wrth reoli pobl a thrwy gael y wobr aur rydym ni'n dangos ein nod parhaus o fod yn gyflogwr dewis cyntaf.
  • ennill gwobrau rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru ar gyfer ein gwasanaeth i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar y clyw; ac
  • cael ein gwobrwyo Marc Siarter 'Yn Uwch na Geiriau' yr elusen Action on Hearing Loss.
all benchmark logos 2017 Yr hyn y mae ein staff yn ei ddweud Un ffordd dda o ddweud wrthych ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud yw drwy adael i rai aelodau o staff ddweud wrthych yn eu geiriau eu hunain. "Mae addasiadau wedi'u gwneud i fy mhatrwm gweithio er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n addas imi, gan gynnwys gweithio oriau cywasgedig a gweithio yn ystod y tymor yn unig. Mae'r addasiadau hyn wedi bod yn arbennig o werthfawr." "Cymerodd dair blynedd i mi 'ddod allan' yn fy swydd flaenorol; cymerodd lai na thair wythnos i wneud yr un peth fan hyn. Roedd hi'n glir ar unwaith fod pob un yn derbyn pob un arall fel y maen nhw." "Dydw i ddim yn teimlo'n anabl pan rwy'n dod i'r gwaith am fy mod i'n cael fy mharchu  ac mae fy sgiliau'n cael eu gwerthfawrogi." "Fel aelod o staff sy'n fyddar, rwy'n cael llawer o gefnogaeth yn fy swydd.  Mae fy nghydweithwyr wedi addasu eu harferion gwaith ac rwyf wedi cael yr offer angenrheidiol i'm galluogi i gyfrannu'n llawn i'r tîm." "Ers ymuno â'r rhwydwaith staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, rwy'n dawel fy meddwl fod gen i le i ddweud fy nweud, lle mae fy marn yn cael ei gwerthfawrogi. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi yn fy ngwaith ac mae'n rhoi'r hyder imi y gallaf ddylanwadu ar bethau i newid y drefn yn y sefydliad." Ymunais â'r rhwydwaith i staff anabl ar ôl cael diagnosis o Ffibromyalgia (FM) rai blynyddoedd yn ôl yn y gobaith o gael rhywfaint o ddylanwad ar y broses o ddatblygu a diwygio polisïau Adnoddau Dynol a pholisïau corfforaethol o ran y ffordd y mae'r polisïau hyn yn effeithio ar bob person anabl (wedi gweithio yn agos gyda'r tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant), ond yn enwedig pobl â chyflyrau anweledig fel FM. Rwy'n falch fod y rhwydwaith, drwy siarad ar y cyd, wedi gallu dylanwadu ar rai o'r polisïau hyn a sicrhau newid.” "Heb gymorth, dealltwriaeth a hyblygrwydd y rheolwyr llinell a chyngor a chefnogaeth gan y nyrs iechyd galwedigaethol rwy'n yn amau ​​y byddwn i yn y gwaith heddiw"