Wythnos Gwrth-fwlio, 19 - 23 Tachwedd 2012

Cyhoeddwyd 20/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/11/2012

Wythnos Gwrth-fwlio. 19 - 23 Tachwedd 2012 Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi ymgyrch y Gynghrair Gwrth-fwlio yn llwyr. “Dylid herio unrhyw fath o fwlio homoffobig, bwlio oherwydd hil, bwlio oherwydd anabledd neu unrhyw fath o fwlio neu drosedd casineb arall, ble bynnag y bydd yn dod i'r amlwg. Mae'n achosi cymaint o boen a gofid i rai sy'n gorfod dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol a chreulon o'r fath. “Mae ymddygiad o'r fath yn gwbl annerbyniol yn y Cynulliad Cenedlaethol ac mae canllawiau a gweithdrefnau ar waith gennym i sicrhau nad yw ymddygiad o'r fath yn rhan o'r gweithle yn y Senedd. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi profi bwlio o'r fath yn uniongyrchol neu sydd wedi bod yn dyst i fwlio tuag at berson arall, i ddweud wrth yr awdurdodau yn ei gylch ar unwaith.”