Y Cynulliad Cynhwysol: Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyhoeddwyd 04/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Holly Pembridge, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Cynulliad, sef cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth eraill i hyrwyddo a dathlu ein bod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Byddwn yn cyhoeddi blog newydd bob dydd yr wythnos hon. Fel rhan o’r wythnos, felly, ymddengys bod hwn yn amser addas i fyfyrio ar y gwaith sydd wedi’i gyflawni i feithrin diwylliant sefydliadol cynhwysol ers sefydlu'r Cynulliad. Wrth inni ddechrau datblygu Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd a Chynllun ar gyfer y Pumed Cynulliad, edrychwn ar sut y gallwn barhau i gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein rôl fel cyflogwr ac fel sefydliad sy'n rhyngweithio â phobl Cymru .
Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sy’n dangos esiampl yn ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol. Mae ein gwerthoedd yn cynnwys y syniad bod cyfle cyfartal i bawb yn hawl ddynol sylfaenol ac rydym yn gwrthwynebu pob ffurf ar wahaniaethu. Rydym yn anelu at greu corff seneddol hygyrch, sy’n ymgysylltu â phawb yng Nghymru ac sy’n eu parchu.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae'n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb."
Meithrin diwylliant sefydliadol cynhwysol a chydweithredol
Yma, rydym yn awyddus i sicrhau y gall pobl wireddu eu potensial llawn a gwneud cyfraniadau lle gallant fod yn hwy eu hunain yn eu hamgylchedd gwaith. I'r perwyl hwn, rydym yn trefnu gwybodaeth a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn rheolaidd er mwyn ysgogi trafodaeth a hyrwyddo diwylliant cynhwysol lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a'i werthfawrogi. Mae'r Cynulliad wedi rhoi arwydd i'w weithlu ei fod wedi ymrwymo i wneud hyn trwy annog sefydlu rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle hunan-reoledig. Mae gennym rwydweithiau ar gyfer pobl LGBT a'u cynghreiriaid; pobl anabl a'u cynghreiriaid, pobl sy'n nodi eu bod yn Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a'u cynghreiriaid; pobl sy'n nodi eu bod yn rhieni a gofalwyr sy'n gweithio; a menywod a dynion. Mae pobl sy'n cyfrannu i’r rhwydweithiau yn gwneud hynny yn ychwanegol at eu swyddi dydd. Mae'n ddiogel dweud bod bodolaeth rhwydweithiau yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, meithrin cysylltiadau da a chynnig atebion os bydd rhwystrau i gynhwysiant yn codi neu bosibilrwydd y byddant yn codi. Mae'r cysyniadau o gefnogaeth gan gymheiriaid a darparu 'lle diogel' lle gall pobl godi materion neu gynnig awgrymiadau ar gyfer gwella yn amhrisiadwy ac mae gennym enghreifftiau lle cafodd polisïau ac arferion yn y gweithle eu gwella. I gael rhagor o wybodaeth am rwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle’r Cynulliad, cysylltwch â diversity@cynulliad.wales
Ymgysylltu ag ystod amrywiol o bobl y tu mewn a'r tu allan i'r Cynulliad
Mae cael tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant hynod weladwy sydd wedi ymrwymo i gydlynu'r gwaith hwn ar draws y Cynulliad wedi bod o fudd am ddau reswm yn benodol. Yn gyntaf, gall arfer da a chydweithio â chydweithwyr ar draws y gwahanol dimau sicrhau ein bod yn ymdrechu'n barhaus fel sefydliad i gynnal a gwella diwylliant sefydliadol cynhwysol. Yn ail, rydym wedi gallu gweithio gyda thimau ar draws y Cynulliad a chynnwys pobl o’r tu mewn a’r tu allan i'r Cynulliad i wneud y gorau o’n hygyrchedd i bobl Cymru. Mae ein Tîm Allgymorth yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau o gymunedau ledled Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad ac annog pobl i gymryd rhan yn ei waith.
Fel Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, rydym yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd a gawsom i rannu arfer gorau a dysgu gan eraill y tu mewn a'r tu allan i'r Cynulliad. Mae'n hanfodol bod sefydliadau’n rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a’r hyn na weithiodd cystal; mae'n arbed amser ac egni a gall helpu i ail-ganolbwyntio blaenoriaethau.
Os hoffech chi helpu i lunio Cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y Cynulliad, cwblhewch ein harolwg byr iawn neu cysylltwch â'r Tîm Amrywiaeth ar 0300 200 7455 neu diversity@cynulliad.cymru