Y Cynulliad wedi'i cydnabod unwaith eto efo enwebiad ar gyfer Gwobrau Gwychder Cymru Gweithredu ar Golled Clyw Cymru

Cyhoeddwyd 21/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Logo Gwobrau Gwychder Action on Hearing Loss CymruRydym yn falch iawn ein bod ar y rhestr fer unwaith eto yng Ngwobrau Gwychder Gweithredu ar Golled Clyw Cymru. Eleni rydym ar y rhestr fer ar gyfer y categori Rhagoriaeth Gwasanaeth ac wedi cael ein cynnig ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i ragori yn ein ddarpariad o wasanaethau i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i wella'r gwasanaeth hwnnw. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw drwy:
  • Ymgysylltu â sefydliadau byddar ledled Cymru. Rydym yn rhoi cyflwyniadau i annog ymgysylltiad democrataidd ac wedi defnyddio fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chymorth i gyfathrebu pan fo angen.
  • Sicrhau bod gennym systemau dolen ar gael ar draws ein hystâd a dolenni chwyddo sŵn cludadwy i bobl ar deithiau.
  • Darparu BSL ac is-deitlau ar gyfer Cwestiynau'r Prif Weinidog – dyma'r agwedd fwyaf poblogaidd o Fusnes y Cynulliad.
  • Defnyddio fforymau ymgynghori ar-lein fel Diolog a Loomio i gynyddu ymgysylltu democrataidd ar-lein.
Rydym hefyd wedi sicrhau bod gan ein staff hyder a chefnogaeth i gyfathrebu'n effeithiol â phobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Rydym wedi gwneud hyn drwy:
  • Cyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein gorfodol sy'n cynnwys ymwybyddiaeth o anabledd ac addasiadau rhesymol wrth gyfathrebu â phobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Yn ogystal, mae llawer o staff, gan gynnwys ein staff sy'n wynebu'r cyhoedd, wedi dilyn hyfforddiant Hyder Anabledd i sicrhau y gallant ymateb yn effeithiol i anghenion pobl. Mae nifer o staff wedi ychwanegu at hyn gyda hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod drwy gyflawni cwrs BSL i lefel 2.
  • Datblygu taflenni ffeithiau ar hyrwyddo hyder anabledd, gwneud addasiadau rhesymol, cyngor ar gyfer cyfathrebu'n effeithiol a threfnu cymorth cyfathrebu. Rhannwyd y rhain gyda'n holl staff trwy ein mewnrwyd.
Gallwch bleidleisio dros y Cynulliad i ennill Gwobr Dewis y Bobl yn https://www.surveymonkey.co.uk/r/excellencewales   Blog-CTA-CY
Os ydych chi wedi ymweld â'r Cynulliad ac am wneud adolygiad, gallwch wneud hynny ar wefan Euan’s Guide. Os ydych chi wedi ymweld â'r Cynulliad, defnyddio ein gwefan neu gysylltu â ni mewn ffordd arall ac yr hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy: