Y Cynulliad yn eich ardal chi - Clwb Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud eu dweud, 8 Rhagfyr 2011

Cyhoeddwyd 14/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2011

[caption id="attachment_68" align="alignnone" width="225" caption="Logan Hickey a Daniel Jones - Clwb Ieuenctid Maesteg"][/caption] Ddydd Iau, 8 Rhagfyr 2011, cymerodd rhai o aelodau Clwb Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ran yn ymgynghoriad Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 sy’n cael ei adolygu gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad ar hyn o bryd. Cawsant gyfle i fynegi eu barn ynglŷn â pha mor effeithiol mae’r ddeddf wedi bod trwy gyfrwng holiadur. Ymhlith y bobl ifanc roedd Logan Hickey o Ysgol Gyfun Llanhari a Daniel Jones o Ysgol Gyfun Cynffig.