- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
- Comisiynydd Plant Cymru;
- Comisiynydd y Gymraeg;
- Cyngor Celfyddydau Cymru.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gwaith ar gyfer tymor yr hydref 2014
Cyhoeddwyd 29/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2014
Hyd yma, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cael tymor yr hydref prysur gyda nifer o sesiynau craffu pwysig eisoes wedi'u cynnal.
Mae'r rhain yn cynnwys craffu ar gyfrifon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun, Llywodraeth Cymru, a rhai cyrff annibynnol sydd â'r rôl bwysig o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae'r gwaith o graffu ar gyfrifon yn waith newydd a phwysig i'r Pwyllgor. Mae'n canolbwyntio ar sut y caiff gwerth am arian ei gyflawni a sut y gallwch sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ateb y cwestiwn hwn: pwy sy'n goruchwylio'r cyrff gwarchod?
http://www.youtube.com/watch?v=eoGKWkaJmqs
Dechreuodd sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar graffu ar gyfrifon ddydd Llun 22 Medi, pan glywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyfrifon Llywodraeth Cymru gan Syr Derek Jones, yr Ysgrifennydd Parhaol. Parhaodd y Pwyllgor i graffu ar y cyfrifon ddydd Mawrth 23 Medi gyda thystiolaeth gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ar ôl craffu'n ofalus ar sefydliadau Llywodraeth Cymru, parhaodd y Pwyllgor â'i waith o graffu ar y cyfrifon ddydd Mawrth 7 Hydref a dydd Llun 13 Hydref, gan edrych ar gomisiynwyr annibynnol Cymru. Yn y sesiynau hyn, siaradodd y Pwyllgor â'r canlynol: