Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gwaith ar gyfer tymor yr hydref 2014

Cyhoeddwyd 29/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2014

Hyd yma, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cael tymor yr hydref prysur gyda nifer o sesiynau craffu pwysig eisoes wedi'u cynnal. Mae'r rhain yn cynnwys craffu ar gyfrifon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun, Llywodraeth Cymru, a rhai cyrff annibynnol sydd â'r rôl bwysig o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'r gwaith o graffu ar gyfrifon yn waith newydd a phwysig i'r Pwyllgor. Mae'n canolbwyntio ar sut y caiff gwerth am arian ei gyflawni a sut y gallwch sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ateb y cwestiwn hwn: pwy sy'n goruchwylio'r cyrff gwarchod? http://www.youtube.com/watch?v=eoGKWkaJmqs Dechreuodd sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar graffu ar gyfrifon ddydd Llun 22 Medi, pan glywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyfrifon Llywodraeth Cymru gan Syr Derek Jones, yr Ysgrifennydd Parhaol. Parhaodd y Pwyllgor i graffu ar y cyfrifon ddydd Mawrth 23 Medi gyda thystiolaeth gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. PAC Ar ôl craffu'n ofalus ar sefydliadau Llywodraeth Cymru, parhaodd y Pwyllgor â'i waith o graffu ar y cyfrifon ddydd Mawrth 7 Hydref a dydd Llun 13 Hydref, gan edrych ar gomisiynwyr annibynnol Cymru. Yn y sesiynau hyn, siaradodd y Pwyllgor â'r canlynol: Mae Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn falch gyda'r hyn y mae'r Pwyllgor wedi'i gyflawni, gan ddweud: “Mae'r tymor yn parhau i edrych yn brysur ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Ddydd Mawrth 21 Hydref, cafodd adroddiad blynyddol y Pwyllgor ei drafod gan Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr. Mae Adroddiad Blynyddol 2013-14, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, yn rhoi cipolwg da o'r amrywiaeth o bynciau a'r ystod o faterion y mae'r Pwyllgor yn eu hystyried. Gallwch wylio'r Aelodau'n trafod adroddiad blynyddol y Pwyllgor ar Senedd TV.” Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar Gyflogau Uwch-reolwyr ddydd Mawrth 4 Tachwedd. Cynhaliwyd yr ymchwiliad gan y Pwyllgor er mwyn ystyried agweddau ar werth am arian o ran cyflogau uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus. Er nad oedd y Pwyllgor yn ystyried cyflogau unigolion, roedd am sicrhau bod digon o atebolrwydd a thryloywder o ran trefniadau cyflogau. Yn ystod yr ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth ag uwch-reolwyr o sefydliadau amrywiol yn y sector cyhoeddus. Bydd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor, ac yn nodi safbwyntiau ac argymhellion y Pwyllgor ar gyfer Llywodraeth Cymru. Bydd y Pwyllgor yn cwrdd nesaf ddydd Mawrth 4 Tachwedd, pan fydd y Pwyllgor yn parhau i ystyried y trefniadau llywodraethu mewn Byrddau Iechyd. Mae hyn yn dilyn adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2013. Os hoffech drefnu sedd i weld unrhyw un o gyfarfodydd y Pwyllgor, cysylltwch â’r tîm archebu drwy ffonio 0845 010 5500 neu anfon neges at archebu@cymru.gov.uk. Gallwch hefyd wylio cyfarfodydd y Pwyllgor drwy sianel ddarlledu’r Cynulliad, sef Senedd TV http://www.senedd.tv/. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor, beth am ddilyn y diweddaraf ar ei ffrwd Twitter? Dilynwch @SeneddArchwilio i gael y wybodaeth ddiweddaraf.