- A yw argaeledd a gallu'r gwasanaethau sydd yn rhoi cymorth i ddefnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd yn ddigonol, a sut y gellid gwella’r gwasanaethau hyn?
- Pa ffactorau a dulliau gweithredu gwahanol sydd angen eu hystyried wrth ymdrin â'r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd mewn ardaloedd gwledig / trefol?
- A yw lefel y cydgysylltu, o fewn Cymru a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth ymdrin â mater y sylweddau seicoweithredol newydd yn ddigonol, a beth sydd angen ei wneud i wella'r partneriaethau hyn?
- Pa ysgogiadau amrywiol y dylid eu defnyddio er mwyn mynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd, er enghraifft, deddfwriaeth, gweithgarwch gorfodi (safonau masnach) ac ati?
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - ymweliadau a trafodaethau grwp ffocws ar gyfer yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd.
Cyhoeddwyd 14/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/10/2014
Ddydd Iau 2 Hydref, bu aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhannu er mwyn cynnal dau ymweliad ar y cyd, yn gogledd Cymru a de Cymru. Bwriad yr ymweliadau hyn oedd i drafod eu hymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd gyda defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau.
Teithiodd Darren Millar AC, Janet Finch-Saunders AC a Chadeirydd y Pwyllgor David Rees AC i Wrecsam.
Cychwynnwyd y diwrnod gydag ymweliad â’r prosiect LOTS (Life on the streets) sydd yn brosiect a sefydlwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW). Cafodd yr Aelodau y cyfle i siarad â phobl y mae sylweddau seicoweithredol newydd wedi effeithio arnynt, gan drafod effaith y sylweddau hynny arnynt, pa mor hawdd yw cael gafael ar y sylweddau ac i drafod ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru fynd ati i fynd i’r afael â’r broblem.
Ar ôl ymweld â phrosiect LOTS, cyfarfu’r Aelodau â staff Dan 24/7, sef llinell gymorth cyffuriau ac alcohol Cymru a ariennir yn gyhoeddus. Trafodwyd nifer y galwadau a gaiff y llinell gymorth o ddydd i ddydd a’r ffordd y caiff y llinell gymorth ei hysbysebu i bobl Cymru ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd trafodaeth olaf y diwrnod ym Mhrifysgol Glyndŵr, lle bu staff rheng flaen o’r GIG, yr heddlu, elusennau a nifer o sefydliadau amrywiol eraill sydd ar hyn o bryd yn ymdrin â phroblemau sylweddau seicoweithredol newydd. Parhaodd y trafodaethau hyn am awr, ac yna bu pob Aelod Cynulliad yn cyfleu’r prif bwyntiau o’u bwrdd i weddill y gynulleidfa.
Y prif bwyntiau a drafodwyd oedd: