Y Senedd: Sylwadau gan ymwelwyr
Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
[caption id="attachment_533" align="alignnone" width="679"] Image from Flickr by astronomy_blog. Licensed under the Creative Commons.[/caption]
Yn ogystal â bod yn ganolbwynt datganoli yng Nghymru, mae’r Senedd hefyd ar agor drwy gydol y flwyddyn fel atyniad i ymwelwyr. Gallwch fynd ar daith o amgylch yr adeilad a dysgu am wleidyddiaeth yng Nghymru gydag un o’r tywyswyr, neu gallwch fynd i’r Cyfarfod Llawn neu i gyfarfod pwyllgor. Hefyd mae digwyddiadau ac arddangosfeydd yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn, felly daw digon o ymwelwyr yma am bob math o resymau.
Yn ddiweddar, gorffennwyd llenwi ein llyfr ymwelwyr, a manteisiwyd ar y cyfle i ddarllen drwy rai o’r negeseuon a nodwyd gan bobl. Mae hon yn ffordd dda o ddeall beth mae pobl wir yn ei fwynhau am eu hymweliadau â’r Senedd.
Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol:
"Rwyf wrth fy modd â’r teimlad agored sydd yn yr adeilad hwn!" - Andrea, Iowa, UDA.
“Staff cyfeillgar dros ben” - Pedr, Caerdydd.
"Gwell nag yw ar y teledu!" - Carole, Gogledd Cymru.
"Staff cyfeillgar iawn a llawn gwybodaeth." - Claire, Stoke-on-Trent.
"Democratiaeth am byth!" - Rob, Ynys Wyth.
"Gwych bod canolbwynt llywodraeth Cymru yn agored i bawb ei archwilio a dysgu amdano. " - Leanne, Cwmbrân.
"Caru’r lle hwn, caru’r wlad hon." Laurence, Caerfaddon.
"Adeilad hardd a chroeso cynnes gan y staff. Diolch - Simon, Farnham.
"Y Senedd orau i mi ymweld â hi." - Sharon, Cyprus.
"Ni allwn roi mwy o ganmoliaeth!" Helmina, Ffindir.
"Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch o fod yn Gymro." Andrew, Pontypridd.
Canmolwyd y cyfleusterau yn benodol:
"Toiledau neis iawn!" - Raynor, Bangor.
[gallery type="square" ids="531,532"]
Roedd pobl nad oeddent yn mwynhau eu hymweliadau, am amryw o resymau, hefyd:
"Gwastraff arian. Cangen ddiangen arall o Lywodraeth." - Sarah, Pen-y-bont ar Ogwr.
"Glanhewch y staeniau dŵr ar y gwydr. Ac ymfalchio yn eich Cynulliad. " - Richard, Llundain.
"Boddhaol. Da, ond ychydig yn ddiflas." Savannah, 10 oed, Caerdydd.
"Dim yn ddrwg, dim yn ddrwg o gwbl, a dweud y gwir, roedd yn iawn." - R, Lloegr.
"Pam nad oedd unrhyw un yn y gwaith heddiw?" Mrs Stephenson, Trethdalwr, Canolbarth Cymru.
Cafwyd sylwadau eraill nad oedd yn ymddangos eu bod yn berthnasol, ond mae’n dal yn neis eu darllen:
"Heddwch a chariad fyddo gyda chi oll." - Dan, pererin heddwch.
"Deuthum i weld draig fy nhad. Wedi cael diwrnod hyfryd. " Katie, Blaenau.
Cawsom ychydig o sylwadau am y byrllysg:
"Yn falch o weld y byrllysg yn cael gofal da." - Jill, Sydney.
"Roedd yn wych, ond chefais i ddim cyffwrdd â’r peth aur." Jason, Birmingham.
Mae’n ymddangos mai’r tywyswyr ar y daith o amgylch y Senedd, Richard a Gareth, a oedd ar y brig, gydag ugeiniau o bobl yn eu canmol:
"Nid oedd y plant wedi sylweddoli y gallai gwleidyddiaeth fod yn gymaint o hwyl! Taith wych gan Gareth!" - Dienw, Rhyl.
"Diolch am ein harwain ar yr ymweliad, Richard. **heart emoticon**" Emeline, Ffrainc.
"Mae Gareth yn neis ac yn olygus iawn. Byddaf yn ei gofio ar hyd fy oes. " - Pauline, Nantes.
Mae’r Senedd yn ein hatgoffa faint yn fwy mae ein system ddemocrataidd wedi datblygu o’i chymharu â rhai gwledydd eraill:
"Mae eich tryloywder wedi creu argraff arnaf!" - Anna, Wcráin.
"O’i chymharu â’n Senedd ni, mae’n berffaith." - Ben, Tunisia.
Rydym yn ymfalchio yn y Senedd, fel calon democratiaeth Cymru, ond hefyd fel adeilad sy’n agored i’r cyhoedd. Mae croeso i sefydliadau a grwpiau cymunedol gynnal digwyddiadau yn y Senedd, cyhyd ag y gallant gael nawdd gan Aelod o’r Cynulliad, sy’n golygu ein bod yn cael amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn yr adeilad.
Os hoffech weld beth sy’n cael ei gynnal yn y Senedd ar hyn o bryd, ewch i’n calendr i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad yn y Senedd, ewch i’n tudalen Gwybodaeth am Ddigwyddiadau.
Os na allwch gyrraedd Bae Caerdydd i ymweld â’r Cynulliad, gallwch weld yr adeilad drwy ein Rhith Daith.
Neu edrychwch ar yr hashnod #senedd a gweld delweddau ar Flickr.
Ffyrdd eraill o gysylltu â ni:
Y Senedd ar Facebook
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Facebook
@Cynulliadcymru ar Twitter
[gallery type="slideshow" ids="535,534,533,530,531,532,529,527,528,526,525"]