Y Senedd: Sylwadau gan ymwelwyr

Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2014

[caption id="attachment_533" align="alignnone" width="679"]Image from Flickr by astronomy_blog. Licensed under the Creative Commons. Image from Flickr by astronomy_blog. Licensed under the Creative Commons.[/caption]   Yn ogystal â bod yn ganolbwynt datganoli yng Nghymru, mae’r Senedd hefyd ar agor drwy gydol y flwyddyn fel atyniad i ymwelwyr. Gallwch fynd ar daith o amgylch yr adeilad a dysgu am wleidyddiaeth yng Nghymru gydag un o’r tywyswyr, neu gallwch fynd i’r Cyfarfod Llawn neu i gyfarfod pwyllgor. Hefyd mae digwyddiadau ac arddangosfeydd yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn, felly daw digon o ymwelwyr yma am bob math o resymau. Yn ddiweddar, gorffennwyd llenwi ein llyfr ymwelwyr, a manteisiwyd ar y cyfle i ddarllen drwy rai o’r negeseuon a nodwyd gan bobl. Mae hon yn ffordd dda o ddeall beth mae pobl wir yn ei fwynhau am eu hymweliadau â’r Senedd. Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol: "Rwyf wrth fy modd â’r teimlad agored sydd yn yr adeilad hwn!" - Andrea, Iowa, UDA. “Staff cyfeillgar dros ben”  - Pedr, Caerdydd. "Gwell nag yw ar y teledu!" - Carole, Gogledd Cymru. "Staff cyfeillgar iawn a llawn gwybodaeth." - Claire, Stoke-on-Trent. "Democratiaeth am byth!" - Rob, Ynys Wyth. "Gwych bod canolbwynt llywodraeth Cymru yn agored i bawb ei archwilio a dysgu amdano. " - Leanne, Cwmbrân. "Caru’r lle hwn, caru’r wlad hon." Laurence, Caerfaddon. "Adeilad hardd a chroeso cynnes gan y staff. Diolch - Simon, Farnham. "Y Senedd orau i mi ymweld â hi." - Sharon, Cyprus. "Ni allwn roi mwy o ganmoliaeth!" Helmina, Ffindir. "Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch o fod yn Gymro." Andrew, Pontypridd.   Canmolwyd y cyfleusterau yn benodol: "Toiledau neis iawn!" - Raynor, Bangor.   [gallery type="square" ids="531,532"] Roedd pobl nad oeddent yn mwynhau eu hymweliadau, am amryw o resymau, hefyd: "Gwastraff arian.  Cangen ddiangen arall o Lywodraeth." - Sarah, Pen-y-bont ar Ogwr. "Glanhewch y staeniau dŵr ar y gwydr. Ac ymfalchio yn eich Cynulliad. " - Richard, Llundain. "Boddhaol. Da, ond ychydig yn ddiflas." Savannah, 10 oed, Caerdydd. "Dim yn ddrwg, dim yn ddrwg o gwbl, a dweud y gwir, roedd yn iawn." - R, Lloegr. "Pam nad oedd unrhyw un yn y gwaith heddiw?" Mrs Stephenson, Trethdalwr, Canolbarth Cymru.   Cafwyd sylwadau eraill nad oedd yn ymddangos eu bod yn berthnasol, ond mae’n dal yn neis eu darllen: "Heddwch a chariad fyddo gyda chi oll." - Dan, pererin heddwch. "Deuthum i weld draig fy nhad. Wedi cael diwrnod hyfryd. " Katie, Blaenau. Senedd Cawsom ychydig o sylwadau am y byrllysg: "Yn falch o weld y byrllysg yn cael gofal da." - Jill, Sydney. "Roedd yn wych, ond chefais i ddim cyffwrdd â’r peth aur." Jason, Birmingham.   Mae’n ymddangos mai’r tywyswyr ar y daith o amgylch y Senedd, Richard a Gareth, a oedd ar y brig, gydag ugeiniau o bobl yn eu canmol: "Nid oedd y plant wedi sylweddoli y gallai gwleidyddiaeth fod yn gymaint o hwyl!  Taith wych gan Gareth!" - Dienw, Rhyl. "Diolch am ein harwain ar yr ymweliad, Richard. **heart emoticon**" Emeline, Ffrainc. "Mae Gareth yn neis ac yn olygus iawn.  Byddaf yn ei gofio ar hyd fy oes. " - Pauline, Nantes.   Mae’r Senedd yn ein hatgoffa faint yn fwy mae ein system ddemocrataidd wedi datblygu o’i chymharu â rhai gwledydd eraill: "Mae eich tryloywder wedi creu argraff arnaf!" - Anna, Wcráin. "O’i chymharu â’n Senedd ni, mae’n berffaith." - Ben, Tunisia. Senedd Rydym yn ymfalchio yn y Senedd, fel calon democratiaeth Cymru, ond hefyd fel adeilad sy’n agored i’r cyhoedd. Mae croeso i sefydliadau a grwpiau cymunedol gynnal digwyddiadau yn y Senedd, cyhyd ag y gallant gael nawdd gan Aelod o’r Cynulliad, sy’n golygu ein bod yn cael amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn yr adeilad.   Os hoffech weld beth sy’n cael ei gynnal yn y Senedd ar hyn o bryd, ewch i’n calendr i gael rhagor o wybodaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad yn y Senedd, ewch i’n tudalen Gwybodaeth am Ddigwyddiadau. Os na allwch gyrraedd Bae Caerdydd i ymweld â’r Cynulliad, gallwch weld yr adeilad drwy ein Rhith Daith. Neu edrychwch ar yr hashnod #senedd a gweld delweddau ar Flickr.   Ffyrdd eraill o gysylltu â ni: Y Senedd ar Facebook Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Facebook @Cynulliadcymru ar Twitter   [gallery type="slideshow" ids="535,534,533,530,531,532,529,527,528,526,525"]