Ydych chi’n cofio haf ‘99? Yma, bydd rhai sydd wedi gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol o’r dechrau yn cael cipolwg yn ôl ar y dyddiau cynnar hynny

Cyhoeddwyd 17/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2016

Ym mis Mai 1999, yn dilyn refferendwm a gynhaliwyd ym 1997 a phasio Deddf Llywodraeth Cymru ym 1998, cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei Gyfarfod Llawn cyntaf yn yr hyn a elwid bryd hynny’n Dŷ Crucywel ym Mae Caerdydd. Mae llawer wedi digwydd dros y 17 mlynedd diwethaf, ond mae rhai pethau wedi aros yr un fath. Yn ystod Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad yn 2016, tynnwyd llun naw o Aelodau’r Cynulliad a oedd yn dychwelyd i gynrychioli eu hetholaethau am y pumed tro, gyda’i gilydd. Maent wedi gwasanaethu fel Aelodau’r Cynulliad ers y Cynulliad cyntaf ym 1999. [caption id="attachment_2812" align="alignnone" width="5000"]ams-of-1999 O'r chwith i'r dde: David Melding AC, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC, Y Dirprwy Llywydd Ann Jones AC, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Jane Hutt AC, Kirsty Williams AC, Y Llywydd Elin Jones AC, Lynne Neagle AC a John Griffiths AC.[/caption] Yn ogystal ag Aelodau’r Cynulliad, mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflogi staff i gefnogi ei waith. Fe ysbrydolodd y llun hwn ni i feddwl ac i hel atgofion am y staff a oedd yn gweithio yma yn ystod y flwyddyn gyntaf hanesyddol honno yn y Cynulliad, ac sy’n parhau i weithio yma hyd heddiw. class-of-1999-1 Dywedodd Adrian Crompton, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, ei fod yn falch o’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi tyfu ac aeddfedu i fod yn "senedd bwerus, gydag adnoddau da sy’n gosod safonau y mae deddfwrfeydd eraill o bob cwr o’r byd yn anelu i’w cyrraedd". Ychwanegodd: "Mae gweithio yn y Cynulliad yn wir yn fraint, - ffaith a gaiff ei chadarnhau, yn fy marn i, gan y gwaith rwy’n ei wneud yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica gyda seneddau sy’n awyddus i ddatblygu’r rhyddid a’r diwylliant democrataidd yr ydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml." Mae Ioan Bellin yn gweithio i Simon Thomas AC a dywedodd: "Y newid mwyaf yn y Cynulliad Cenedlaethol yn fy amser i yma fu gwahanu’r ddeddfwrfa a’r weithrediaeth". Digwyddodd y gwahanu hwn yn 2007 pan wahanwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r hyn a oedd ar y pryd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Ioan hefyd wedi sylwi bod cerdded drwy’r Senedd yn rhoi balchder mawr iddo, oherwydd mae’n cofio’r broses adeiladu ac agoriad swyddogol yr adeilad ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006. Bu Nia Percy yn recordio ac yn ffilmio cyfarfodydd pwyllgor a’r Cyfarfodydd Llawn o’r dechrau, ar gyfer y contractwyr darlledu Barcud Derwen a Bow Tie.  Dywedodd Nia: "Mae technoleg wedi datblygu cryn dipyn yn y ddwy flynedd ar bymtheg ers 1999. Ni allem ddychmygu ar y pryd sut y mae gwe-ffrydio o ran Senedd TV wedi datblygu cymaint, i’r graddau ei fod wedi disodli darlledu traddodiadol ar sianelau teledu daearol i raddau helaeth." Drwy ei gwaith yn y maes darlledu yn y Cynulliad, mae hi’n teimlo’n falch ei bod hi "..yn chwarae rhan yn y broses ddemocrataidd, gan sicrhau bod y Cynulliad yn hygyrch ac ar gael i bobl Cymru." Mae Ray Jones, sydd hefyd yn gweithio fel darlledwr ar ei liwt ei hun, ac i’r Tîm Cyswllt Cyntaf, hefyd yn canmol y Cynulliad am "y ffordd y mae wedi croesawu technoleg, ac a’i cynorthwyodd i estyn allan at yr etholwyr", ac mae’n nodi hwn fel un o’r datblygiadau pwysicaf. Soniodd llawer o’r staff gwreiddiol ym 1999 am natur gyfeillgar ac agored y Cynulliad.  Dywedodd Joanne Thomas, sydd bellach yn gweithio i Rhiannon Passmore AC ei bod yn "mwynhau cyfeillgarwch y bobl yn y Cynulliad Cenedlaethol a’r ffordd y mae’r gwahanol adrannau o fewn Comisiwn y Cynulliad mor barod i helpu." Soniodd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn, mai’r amser mwyaf cofiadwy iddo ef oedd yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl yr Etholiad ym 1999, pan gyrhaeddodd Aelodau’r Cynulliad yn rhy gynnar! "Roeddem wedi gofyn, ychydig yn ddiniwed wrth edrych yn ôl, i’r Aelodau etholedig ddod i’r Bae ddydd Llun, 10 Mai 1999. Fodd bynnag, dechreusant gyrraedd ar 7 ac 8 Mai – a ninnau ddim yn barod amdanynt. Er fy mod yn cofio ei fod yn ddiwrnod hanesyddol a hynod gyffrous, roedd yn bendant yn ddiwrnod a oedd yn mynnu bod pob copa walltog ohonom yn bwrw ati gyda’n gilydd. Pan fyddaf yn cymharu y diwrnod hwnnw gyda sut y gwnaethom groesawu ein Haelodau i’r Senedd yn 2016, mae’n amlwg ein bod ni fel sefydliad wedi datblygu i fod yn llawer mwy soffistigedig o ran y ffordd y mae ein gwasanaethau wedi esblygu. Rwyf yr un mor falch o weithio i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw ag yr oeddwn ym mis Mai 1999". Hoffem ddiolch i’r holl Aelodau a’r Staff am eu cyfraniadau parhaus i waith y Cynulliad dros y blynyddoedd, ac estynnwn groeso i’r rhai sydd wedi ymuno’n fwy diweddar ac a fydd yn cyfrannu at waith y pum Cynulliad nesaf. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith y Cynulliad a chael yr holl newyddion diweddaraf drwy fynd i’n gwefan.