Cyhoeddwyd 24/08/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Beth yw Drysau Agored?
Ar 10 Medi 2016, bydd cyfle i ymweld ag adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel rhan o gynllun
Drysau Agored Cadw.
Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.
Ble?
Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:
Y Pierhead
Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.
Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma lle mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.
Y Senedd
Mae’r Senedd yn ddeg oed eleni, a dyma galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y
Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dyma’r stop olaf ar y daith, ac i ddathlu pen-blwydd y Senedd yn ddeg oed, bydd paned o de neu goffi ar gael i am ddim yn y caffi yn Oriel y Senedd i ymwelwyr Drysau Agored eleni.
Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA
Pryd?
10 Medi 11:00am
Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?
Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Ffoniwch
0300 200 6565 neu anfonwch
e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru i neilltuo lle.
Rhagor o wybodaeth
Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i
wefan Cadw.
Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Os na fedrwch ddod ar y daith ar 10 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.
Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!
Gallwch hefyd weld pwy yw’ch
Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.
Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:
Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30
Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.
Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys
gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.
Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Tudalen Facebook y Senedd.