Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored Cadw 2016

Cyhoeddwyd 24/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/08/2016

Beth yw Drysau Agored? Ar 10 Medi 2016, bydd cyfle i ymweld ag adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel rhan o gynllun Drysau Agored Cadw. Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Senedd, Pierhead Ble? Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd: Y Pierhead Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Tŷ Hywel Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma lle mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad. Y Senedd Mae’r Senedd yn ddeg oed eleni, a dyma galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyma’r stop olaf ar y daith, ac i ddathlu pen-blwydd y Senedd yn ddeg oed, bydd paned o de neu goffi ar gael i am ddim yn y caffi yn Oriel y Senedd i ymwelwyr Drysau Agored eleni. Coffi yn y Senedd Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA Pryd? 10 Medi 11:00am Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith? Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle. Rhagor o wybodaeth Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw. Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru Os na fedrwch ddod ar y daith ar 10 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd! Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd. Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor: Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30  Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30. Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan. Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Tudalen Facebook y Senedd.   Pierhead, Drysau Agored Cadw