Ymweliad allgymorth ag EYST Abertawe

Cyhoeddwyd 26/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/03/2012

[caption id="attachment_112" align="aligncenter" width="300" caption="EYST"][/caption] Wythnos diwethaf, cyfarfu Kevin Davies, y Rheolwr Allgymorth dros Orllewin De Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ag EYST i gael rhagor o wybodaeth am waith y prosiect, a bu’n trafod cyfleoedd i weithio gyda’r sefydliad hwn yn y dyfodol. Siaradodd Kevin â Shehla a Helal, gan esbonio’r gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r ffyrdd y gall EYST fel sefydliad, a’i gyfranogwyr, gymryd rhan a dylanwadu ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedyn, aeth ar daith o amgylch y swyddfa a’r ganolfan galw heibio drws nesaf, a adeiladwyd ac a ddyluniwyd gan y bobl ifanc sy’n ei defnyddio.