1000 o ddeisebau - Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn cyrraedd carreg filltir bwysig

Cyhoeddwyd 15/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/11/2020   |   Amser darllen munudau

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried ei 1000fed deiseb ddydd Mawrth, 15 Medi, a bydd yn nodi carreg filltir ar gyfer system sy’n agor democratiaeth i bobl Cymru.

  • 1000fed deiseb yn galw am ddysgu hanes Pobl Dduon a Phobl Croendywyll y DU yn orfodol yn y cwricwlwm addysg yng Nghymru.
  • Gwelwyd cynnydd mawr o ran deisebau i’r Senedd yn sgîl y system ddeisebau newydd.
  • Mae deisebau wedi arwain at newidiadau i gyfraith Cymru, i bolisi’r llywodraeth a newidiadau o ran cyllid.

Mae’r ddeiseb yn galw am wneud dysgu hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn orfodol yn holl ysgolion Cymru. Mae’r ddeiseb wedi casglu mwy na 34,000 o lofnodion ac, o’r herwydd, bydd y Pwyllgor yn ystyried a fyddai’n well symud ymlaen drwy gynnal dadl gan y Senedd lawn yn ystod y Cyfarfod Llawn.

Hon hefyd yw’r ail ddeiseb fwyaf a dderbyniwyd yn ystod y Pumed Senedd.

Dywedodd y deisebydd, sef Angharad Owen:

“Dechreuais y ddeiseb ym mis Mehefin yng nghanol gwrthdystiadau byd-eang yn erbyn hiliaeth i gefnogi’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Mae'r cyfnod hwn o newid a chythrwfl yn gyfle hanfodol i'r Senedd weithredu ar yr angen i gynnwys hanesion pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng nghwricwlwm addysg Cymru.

“Rwy’n credu’n gryf y dylai pob myfyriwr yng Nghymru gael cyfle i ddysgu am hanes ei ddiwylliant ei hun yn yr ystafell ddosbarth, ac y dylem fod yn mynd ati i ddathlu hanesion amlddiwylliannol ac amrywiol balch Cymru yn y cwricwlwm cenedlaethol.

“Mae'r Senedd wedi bod yn wych wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y datblygiadau ac mae bob amser wedi bod yn barod ac yn ddiwyd wrth ateb fy nghwestiynau. Mae’n gyffrous i mi weld camau nesaf y ddeiseb ac rwy’n edrych ymlaen at weld trafodaeth amdani ar 15 Medi."

Yn ystod argyfwng y coronafeirws a’r cyfyngiadau symud o ganlyniad iddo, mae nifer y deisebau a gyflwynwyd i’r Senedd wedi cynyddu’n ddramatig, ynghyd â nifer y llofnodion i’r deisebau hynny.

Yng nghyfnod y Senedd hwn hyd yma (2017-2021) daeth mwy na 386 o ddeisebau i law.

Ers mis Ebrill eleni mae gennym system ddeisebau ar-lein newydd, ac mae hynny’n ei gwneud yn haws fyth i bobl ddechrau deisebau a’u llofnodi. Ers cyflwyno’r system newydd mae 118 o ddeisebau newydd wedi’u cyflwyno a chasglwyd rhagor na 212,000 o lofnodion.

Mae llawer o ddeisebau yn ymatebion i ddigwyddiadau cyfredol, er enghraifft, y coronafeirws, y mudiad Black Lives Matter neu i ganlyniadau arholiadau.

Mae llawer o ddeisebau eraill yn benodol i ardaloedd lleol, er enghraifft, y ddeiseb fwyaf a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn nhymor y Pumed Cynulliad/Senedd oedd ‘Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!' a gasglodd fwy na 40,000 o lofnodion.

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau:

“Mae’r system ddeisebau yn un o’r ffyrdd mwyaf hygyrch ac uniongyrchol y gall pobl godi ymwybyddiaeth o fater sy’n eu poeni, neu hyrwyddo polisi neu gamau gweithredu newydd yng Nghymru.

“Mae deisebau wedi arwain at newidiadau yn y gyfraith neu hyd yn oed ddeddfau newydd, ac maent wedi gorfodi llywodraethau i newid eu polisïau neu i ddarparu cyllid ar gyfer materion penodol.

“Gall y Pwyllgor Deisebau ddwyn pryderon deisebwyr yn uniongyrchol i sylw Llywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill, a chraffu ar ei gweithredoedd mewn ymateb i’r pryderon hynny. Yn ystod y Senedd hon rydym wedi ystyried yn fanwl nifer sylweddol o ddeisebau, wedi cymryd tystiolaeth gan ddeisebwyr a sefydliadau, wedi cyhoeddi adroddiadau yn sgîl ymchwiliadau, ac wedi cynnal dadleuon i dynnu sylw at faterion pwysig a chyfrannu at newid go iawn i bobl yng Nghymru.”

Cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau cyntaf ei gyfarfod cyntaf ar 4 Gorffennaf 2007 ac roedd yn gallu ystyried unrhyw ddeiseb a oedd yn ymwneud â mater a ddatganolwyd i Gymru.

Cyflwynwyd system e-ddeisebau ym mis Ebrill 2008 a oedd yn caniatáu i bobl ddechrau neu lofnodi deisebau ar-lein yn hytrach nag yn ysgrifenedig. Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi derbyn deisebau ar-lein a deisebau ar bapur ers hynny.

Er mwyn i’r Pwyllgor ei hystyried, rhaid i ddeiseb fodloni’r rheolau o ran deisebau. Er enghraifft, rhaid iddi ymwneud â mater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, a rhaid i o leiaf 50 o lofnodion fod wedi’u casglu.

Gall y Pwyllgor Deisebau benderfynu gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddeisebau gyda rhagor na 5,000 o lofnodion.