A oes angen isafbris am alcohol yng Nghymru? – ymgynghoriad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 26/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/10/2017

Bydd cyfle i bobl Cymru rannu eu barn am gyfraith arfaethedig i gyflwyno isafbris am alcohol.

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Pe bai’n dod yn gyfraith, byddai’n drosedd i werthu alcohol am lai na phris sy’n seiliedig ar ei gryfder a’i gyfaint.

“Mae modd gweld cost lefelau peryglus a niweidiol ar ein strydoedd ac yn ein hysbytai ar draws y wlad,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

“Ond mae costau eraill; costau tymor hwy sy’n effeithio ar iechyd a lles pobl ac iechyd a lles y bobl o’u hamgylch.

“Ond a fyddai isafbris am alcohol yn ffordd o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol ac ai’r cynnig hwn am gyfraith newydd fyddai’r ateb?

“Bydd y Pwyllgor yn edrych yn ofalus iawn ar y Bil hwn i weld a yw’n gallu cyflawni amcan y Llywodraeth o amddiffyn iechyd y bobl sy’n dueddol o yfed llawer o ddiodydd sy’n isel o ran pris ac yn uchel o ran alcohol.

“Rwy’n galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn, neu unrhyw un sydd wedi dioddef effeithiau lefelau niweidiol o yfed, i ystyried ein cylch gorchwyl ac ymateb i’r ymgynghoriad.”



Hoffem ni clywed gennych chi.

Cymerwch ran yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i’r gyfraith arfaethedig ar gyfer cyflwyno isafbris am alcohol.

Rhagor o wybodaeth»



Amcangyfrifir mai £15 biliwn dros 20 mlynedd yw cost defnydd alcohol yng Nghymru; mae hyn yn cynnwys costau gofal iechyd uniongyrchol, a’r costau sy’n gysylltiedig â throseddau ac absenoldeb o’r gwaith.

Mae alcohol bellach 60 y cant yn fwy fforddiadwy nag yr oedd ym 1980.

Mae cyfraith i osod isafbris am alcohol eisoes wedi’i phasio yn yr Alban – fodd bynnag, nid yw’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei rhoi ar waith oherwydd her gyfreithiol gan y Scotch Whisky Association – ac mae cyfreithiau tebyg ar waith mewn gwledydd eraill fel Canada, Rwsia, Moldofa ac Ukrain.

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystyried a fydd y Bil yn cyflawni ei nodau, a allai unrhyw ganlyniadau anfwriadol godi, ac a oes modd cyflawni amcanion y Bil drwy ddeddfwriaeth gyfredol.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr ymgynghoriad fynd i dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ragor o wybodaeth.