A yw cyllid wedi’i dargedu yn llwyddo i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru? – Ymchwiliad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2017

Bydd ymchwiliad newydd yn trafod dull Llywodraeth Cymru o dargedu cyllid mewn ysgolion yng Nghymru, gan ofyn a ydyw wedi helpu i wella perfformiad a safonau grwpiau penodol o ddisgyblion ac ysgolion.

 

Bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn canolbwyntio ar Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru, a rhaglen Her Ysgolion Cymru sydd bellach wedi dod i ben.

Caiff dros £90 miliwn y flwyddyn ei wario ar y Grant Datblygu Disgyblion, sy’n gweithio’n benodol i gynorthwyo plant mewn ardaloedd mwy difreintiedig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Roedd rhaglen Her Ysgolion Cymru yn canolbwyntio ar godi lefelau cyrhaeddiad yn yr ysgolion uwchradd hynny a oedd yn wynebu’r heriau mwyaf wrth wella. Cost rhaglen Her Ysgolion Cymru yn ystod ei hoes o dair blynedd oedd £40 miliwn.

Dengys ffigurau, er bod nifer y disgyblion sy’n elwa o’r Grant Datblygu Disgyblion ac a gafodd bump TGAU neu ragor ar radd A*-C wedi cynyddu dros ddegawd, roedd gostyngiad sydyn o 71.6 y cant yn 2016 i 41.1 y cant yn 2017.

Arweiniodd raglen Her Ysgolion Cymru at welliant mewn 23 allan o 39 o ysgolion, gyda mwy o ddisgyblion yn cael pump TGAU neu ragor ar radd A*-C. Fodd bynnag, cafwyd dirywiad mewn safonau mewn nifer o ysgolion eraill, gyda phum ysgol yn syrthio i’r band coch yn ôl system fandiau genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, “Mae codi lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.”

“Mae’n hollbwysig bod pob plentyn yng Nghymru yn cael addysg o safon uchel a’r un cyfleoedd â phawb arall, waeth beth fo’u hamgylchiadau.

“Mae’r gostyngiad diweddar mewn safonau mewn ysgolion sy’n cael y Grant Datblygu Disgyblion yn peri pryder penodol ac yn mynd yn groes i’r duedd gyffredinol o welliant yn ystod y degawd diwethaf.

“Byddwn yn trafod y rhesymau am hyn, gan ofyn beth y mae ysgolion a’r consortia addysg rhanbarthol yn ei wneud i sicrhau bod y miliynau o bunnoedd sy’n cael eu neilltuo bob blwyddyn yn mynd i’r ardaloedd cywir yn y ffordd gywir.

“Byddwn hefyd yn trafod effaith rhaglen Her Ysgolion Cymru a’r goblygiadau i ysgolion sydd wedi elwa o’r rhaglen hon oherwydd ei bod bellach wedi dod i ben.”

Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllid wedi’i dargedu. Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau’r Pwyllgor ar y we. Y dyddiad cau ar gyfer cyfrannu at yr ymgynghoriad yw 5 Ionawr 2018.