Pa mor effeithiol yw'r ymdrechion i annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgarwch corfforol? Dyna'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn gan un o bwyllgorau'r Cynulliad wrth iddo lansio ymchwiliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lansio ei ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc drwy gynnal gweithdy gyda phobl ifanc o Ynys Môn.
Bydd grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed yn siarad â Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, a Rhun ap Iorwerth AC, un o Aelodau'r Pwyllgor, am y rhwystrau maent yn eu hwynebu o ran gwneud mwy o weithgarwch corfforol. Bydd yr Aelodau a'r bobl ifanc yn cael cyfle i bedlo am un cilomedr ar feic ymarfer corff. Bydd Dr Lloyd, sy'n feddyg teulu rhan-amser, wrth law i gymryd eu pwysedd gwaed.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar lefelau cyfranogiad plant a phobl ifanc o ran gweithgarwch corfforol a chwaraeon, ynghyd â'r graddau y maent yn gwneud mathau eraill o weithgarwch corfforol fel cerdded i'r ysgol. Bydd hefyd yn edrych ar:
- effeithiolrwydd rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, a'u gwerth am arian;
- y pethau a allai fod yn rhwystro plant a phobl ifanc rhag gwneud gweithgarwch corfforol;
- pa un a oes gennym y wybodaeth gywir am lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant yng Nghymru;
- pa un a yw polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth i lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Dywedodd Dr Dai Lloyd AC:
"Mae cadw'n heini yn dod â manteision iechyd tymor hir, a dyna pam y mae mor bwysig bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn sicrhau bod hyn yn rhan o'u bywydau bob dydd, a'u bod yn canfod camp neu weithgaredd y maent yn wir yn ei fwynhau.
"Mae plant a phobl ifanc sy'n gwneud gweithgarwch corfforol yn fwy tebygol o gadw'n heini ac yn iach wrth iddynt dyfu, a bydd hynny yn ei dro yn lleihau'r pwysau ar y GIG yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif eisoes mai'r gost flynyddol i Gymru sy'n deillio o anweithgarwch corfforol yw £650 miliwn.
"Rydym yn awyddus i edrych ar effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu gweithgarwch corfforol, ac i drafod a yw merched yn cael llai o gyfleoedd na bechgyn i wneud gweithgarwch corfforol ac a oes ganddynt agweddau gwahanol yn y cyd-destun hwn.
"Mae mwy na chwarter plant oed derbyn yng Nghymru naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Gwyddom hefyd fod y plant hyn yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew yng Nghymru, ar gyfartaledd, os ydynt yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uwch. Wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau datblygu strategaeth gordewdra genedlaethol, bydd ein hymchwiliad yn llywio ein cyfraniad ati wrth inni weithio i sicrhau bod ein pobl ifanc yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."
Cynhelir ymgynghoriad i bobl gyflwyno’u syniadau a'u hawgrymiadau eu hunain. Y dyddiad cau yw 15 Medi 2017. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe’r Pwyllgor a thrwy Twitter @SeneddIechyd.