Adalw’r Pwyllgor Addysg i drafod y broses o ran canlyniadau

Cyhoeddwyd 14/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Yn dilyn canlyniadau Safon Uwch yr wythnos hon a chyda chanlyniadau TGAU yr wythnos nesaf, mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn cael ei adalw ar frys.

Yn sgil argyfwng COVID-19 a chanslo arholiadau ledled Cymru, mae gwahaniaethau sylweddol o ran sut mae cymwysterau'n cael eu dyfarnu i bobl ifanc yn 2020.

Mae gan y Pwyllgor rôl allweddol wrth ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol eraill i gyfrif, ac mae'n gwahodd y cyrff sy'n gwneud y cyfryw benderfyniadau i egluro'r hyn sydd wedi digwydd a'r mesurau sydd – ac a fydd – yn cael eu rhoi ar waith i helpu'r rhai sy'n pryderu am eu canlyniadau.

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau y darperir tegwch, eglurder a chywirdeb i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, a staff addysg yng Nghymru.

Yn ôl Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

"Mae gan ein Pwyllgor rôl bwysig wrth ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif ar y penderfyniadau a wneir wrth ymateb i'r pandemig.

"O ystyried y pryderon a'r cymhlethdodau sylweddol o ran dyfarnu canlyniadau arholiadau eleni, byddwn yn cyfarfod ar frys i ofyn am eglurder i'r rhai sydd wedi bod drwy'r broses heriol hon mewn cyfnod digynsail.

"Bydd llesiant pobl ifanc, a'u gallu i gynllunio ar gyfer eu dysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol, yn greiddiol i'n gwaith wrth inni edrych ar y materion hyn.

"Rydym yn cydnabod bod y materion hyn yn gymhleth ac y bydd angen eu hystyried yn fanwl dros y tymor hwy. Fodd bynnag, credwn fod gennym ni rôl bwysig nawr, sef gofyn cwestiynau a fydd yn sicrhau bod dull teg a chlir yn cael ei fabwysiadu a'i gyfathrebu i bobl Cymru cyn gynted â phosibl."

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Mawrth 18 Awst. Mae wedi gwahodd CBAC, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ac i ateb cwestiynau.