Bydd y Senedd yn cael ei hadalw ar ddydd Mercher, 30 Rhagfyr am 10:30.
Bydd Aelodau’n cyfarfod ar-lein drwy gynhadledd fideo i drafod y cytundeb mewn egwyddor rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ar eu perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio a goblygiadau Cytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU-UE.
Bydd Aelodau hefyd yn trafod datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud â Covid-19.
Cytunodd y Llywydd i gais yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog i adalw'r Senedd yn ystod toriad y Nadolig.
Bydd modd gwylio trafodaethau y Cyfarfod Llawn yn fyw ar Senedd.tv neu ar sianel Twitter @SeneddCymru.
Gellir gweld manylion llawn am agenda Cyfarfod Llawn dydd Mercher a'r cynnig ynghylch cytundeb trosglwyddo'r UE yma.