Mae Shahzad Khan, aelod o dîm diogelwch y Senedd, wedi’i ddewis unwaith eto i gyflawni rôl seremonïol cludwr y byrllysg ar gyfer ymweliad cyntaf Ei Fawrhydi y Brenin Charles III â'r Senedd.
Bydd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru a disgyblion o un o ysgolion cynradd Caerdydd hefyd yn rhan o hanes ddydd Gwener 16 Medi fel rhai o'r bobl gyntaf i gwrdd â’i Fawrhydi yn ystod ei ymweliad cyntaf â Chymru. Bydd y Parti Brenhinol a'r gwesteion yn clywed cerddoriaeth gan ddwy delynores o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Bydd Eu Mawrhydi y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn dod i'r Senedd amser cinio ddydd Gwener i glywed Cynnig o Gydymdeimlad gan Aelodau o'r Senedd.
Mae'r ymweliad yn rhan o ddiwrnod o ddigwyddiadau Brenhinol yn y brifddinas, sydd hefyd yn cynnwys Gwasanaeth Myfyrdod yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a derbyniad yng Nghastell Caerdydd.
Mae croeso i bobl sydd am ddangos eu parch yn y Senedd ymgynnull y tu allan i'r adeilad ym Mae Caerdydd, lle y bydd modd gweld y digwyddiad yn fyw ar sgriniau mawr.
"Mae'n foment ddigalon, ond mae'n fraint hefyd"
Dyma’r eildro y bydd Shahzad Khan yn cyflawni'r ddyletswydd unigryw hon. Ef oedd cludwr y byrllysg yn Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd ar 14 Hydref 2021 hefyd, sef ymweliad olaf Ei Mawrhydi y Frenhines â Chymru. Dywedodd:
"Roedd yn anrhydedd mawr i mi gludo’r byrllysg pan ymwelodd y Frenhines â'r Senedd y llynedd ac roeddwn i’n methu â chredu’r peth pan ofynnwyd i mi ei wneud eto. Rwy’n cofio’r cyfarfod yn fanwl – roedd yn deimlad anhygoel edrych arni’n dod i mewn i’r ystafell, ac fe allech chi deimlo bod rhywbeth wedi newid yn yr ystafell. Byddaf yn cadw’r atgof hwnnw yn fy nghalon am byth.
"Byddaf yn cludo’r byrllysg y tro hwn o dan amgylchiadau trist iawn, ond rydw i a fy nheulu yn falch o fy rôl ar yr adeg hanesyddol hon. Bydd yn teimlo'n wahanol iawn y tro hwn gan ei bod hi’n foment mor drist, ond mae hefyd yn fraint cael bod yn rhan o'r broses o drosglwyddo i deyrnasiad y Brenin newydd."
Telynoresau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Bydd dwy delynores o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn perfformio ar gyfer Eu Mawrhydi wrth iddynt symud o amgylch y Senedd.
Mae Cerys Rees wrthi'n astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Perfformio Cerddoriaeth yn y Coleg ar ôl ennill gradd BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth. Graddiodd Nia Evans o’r Coleg yr haf hwn, ar ôl sicrhau gradd Meistr â Rhagoriaeth, ynghyd â Gwobr Telyn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a Gwobr Daniel Emlyn Davies.
Senedd Ieuenctid Cymru
Bydd grŵp o 12 o Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn cael y fraint o gwrdd â’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog a siarad â hwy am eu gwaith yn cynrychioli lleisiau a safbwyntiau pobl ifanc Cymru. Yn eu plith, mae Aelodau a etholwyd i gynrychioli eu hetholaethau lleol a rhai a etholwyd i gynrychioli elusennau neu sefydliadau ieuenctid.
Bydd 30 Aelod arall o’r Senedd Ieuenctid ymhlith y gwesteion sy’n gwylio'r digwyddiad y tu mewn i'r Senedd.
Ysgol Gynradd Leol
Bydd disgyblion o ysgol gynradd leol, sef Ysgol Gymraeg Hamadryad, yn ardal Butetown yng Nghaerdydd, yn ymgynnull y tu allan i'r Senedd i gyfarch Ei Fawrhydi y Brenin wrth iddo adael yr adeilad. Bydd y disgyblion hefyd yn cyflwyno tusw o flodau i’w Mawrhydi y Frenhines Gydweddog wrth iddynt baratoi i adael ar gyfer eu digwyddiad nesaf yng Nghastell Caerdydd.
Yr ymweliad Brenhinol â Chaerdydd
Ar eu hymweliad cyntaf â Chaerdydd, bydd Eu Mawrhydi yn mynd i Eglwys Gadeiriol Llandaf yn gyntaf am Wasanaeth Gweddi a Myfyrdod cyn dod i’r Senedd. Yn olaf, byddant yn mynd i dderbyniad yng Nghastell Caerdydd, lle y bydd y Brenin hefyd yn cynnal cyfarfod preifat â Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, a’r Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd.
Mae croeso i bobl ymgynnull ym mhob lleoliad, i ddangos eu parch at Eu Mawrhydi. Yng Nghastell Caerdydd, bydd 2,000 o aelodau o'r cyhoedd – ar sail y cyntaf i'r felin – hefyd yn cael mynd i mewn i faes y Castell.
Gwahoddir y cyhoedd hefyd i ymgynnull ar hyd y llwybr i groesawu'r Parti Brenhinol wrth iddo gyrraedd ac ymadael â'r Castell.