Balchder pâr am gael bod yn rhan o’r orymdaith Frenhinol

Cyhoeddwyd 15/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/09/2022   |   Amser darllen munudau

Bydd y gyn-Delynores Frenhinol Claire Jones yn chwarae darn wedi’i gyfansoddi’n arbennig i nodi ymweliad cyntaf y Brenin â Chymru ddydd Gwener. Bydd Ms Jones yn chwarae’r darn wrth i’w Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog fynd ar eu taith drwy’r Senedd i glywed cynnig o gydymdeimlad.

Cafodd y darn, sy’n dwyn y teitl “Gorymdaith i’r Brenin Siarl”, ei gyfansoddi gan ŵr Claire, Chris Marshall.

Gan gyrraedd amser cinio ddydd Gwener, bydd y Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn cael eu cyfarch gan Lywydd y Senedd a’r Prif Weinidog. Bydd dwy delyn yn canu i nodi’r achlysur, gyda Cerys Rees a Nia Evans yn ymuno â Ms Jones.

Dywedodd y delynores arobryn, Claire Jones: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio i’r Brenin Charles a’i deulu eto wrth iddynt ymweld â Chymru. Roedd yn fraint arbennig cael bod yn Delynores Swyddogol iddo am bedair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnes i berfformio dros 180 o weithiau i’r Teulu Brenhinol, gan gynnwys perfformiad personol i’w Mawrhydi y Frenhines a sawl achlysur gwladwriaethol i’w Mawrhydi dros y blynyddoedd. Bydd y perfformiad yn y Senedd yn achlysur arbennig iawn wrth i mi berfformio cerddoriaeth fy ngŵr i’w Fawrhydi y Brenin Charles.”

Dywedodd y cyfansoddwr, Chris Marshall: “Mae’n fraint wirioneddol i mi gael cyfansoddi’r gwaith arbennig hwn ar gyfer achlysur mor bwysig, sef ymweliad y Brenin Charles III â Chymru. Mae’r gerddoriaeth yn orymdaith urddasol a chysegredig, sy’n cynrychioli esgyniad y Brenin i’r Orsedd.”

Claire Jones yw un o delynorion clasurol gorau Prydain ac yn gyn-Delynores Swyddogol i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru 2007-11. Daeth yn enw cyfarwydd am ei pherfformiad arbennig yn y Briodas Frenhinol yn 2011 i’w Huchelderau Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru. Mae Claire yn perfformio yn rheolaidd fel unawdydd gyda rhai o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw y byd ac mae wedi cyrraedd brig y siartiau clasurol gyda llawer o’i halbymau ar y cyd â’i gŵr, y cyfansoddwr Chris Marshall.

Mae’r cyfansoddiad gan y cyfansoddwr adnabyddus o Gymru, Chris Marshall, y mae ei waith wedi cael ei berfformio’n rhyngwladol ar y teledu a’r radio, a chan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw y byd, fel y Royal Philharmonic Orchestra a’r English Chamber Orchestra ac mewn gwyliau rhyngwladol fel Proms Cymru ac Eisteddfod Llangollen, ac yn Ewrop ac Unol Daleithiau America.

Yn cymryd rhan yn yr ymweliad hefyd bydd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, plant o Ysgol Gymraeg Hamadryad a Shahzad Khan, aelod o dim diogelwch y Senedd, fydd yn cludo'r byrllysg seremoniol i'r Siambr.