Addas i’r diben - system gynaliadwy a chost-effeithiol newydd i roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Addas i’r diben - system gynaliadwy a chost-effeithiol newydd i roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad

Mae’r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi sefydlu system newydd ar gyfer cyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad heddiw. Mae’r Bwrdd wedi rhewi cyflogau’r Aelodau am bedair blynedd, wedi ymrwymo i gynnal arolwg o lwfansau’r deiliaid swyddi, wedi gwneud y lwfans costau swyddfa’n fwy tryloyw ac wedi newid lwfansau eraill. Dywedodd George Reid, Cadeirydd y Bwrdd, yn dilyn pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm, ei bod yn hanfodol bod gan yr Aelodau y dulliau a’r cymorth cywir i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau craidd o graffu ar Lywodraeth Cymru, gwneud cyfreithiau a chynrychioli eu hetholwyr.   Ychwanegodd fod y system newydd yn ateb a wnaed yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r dirwedd ariannol bresennol o ran cyllidebau tyn yn y sector cyhoeddus a lefelau cyflog cyfartalog tyn ledled Cymru. Dywedodd Mr Reid: “Rydym wedi gwneud ein penderfyniad cyntaf yn erbyn cefndir o fod ag amgylchiadau economaidd eithriadol yng Nghymru a’r DU, ac rydym wedi sefydlu system o gymorth ariannol ar sail tystiolaeth ac sy’n effeithiol o ran cost.   “Mae’n briodol bod ein penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail y cyd-destun economaidd ehangach ac, felly, gwnaethom benderfynu y dylid cael cyllideb lai ar gyfer talu am oblygiadau ariannol ein penderfyniadau. “Ar yr un pryd, gwnaethom ein penderfyniadau hefyd yn erbyn y cefndir o’r drafodaeth ynghylch dyfodol pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol. “Felly, roedd y Bwrdd hefyd am gynnwys yn y penderfyniad gyfeiriad at y ffaith ei bod yn bosibl y gall rôl Aelodau’r Cynulliad newid yn y Pedwerydd Cynulliad. Gan fod pobl Cymru bellach wedi pleidleisio o blaid cael rhagor o bwerau i’r Cynulliad, rydym yn hyderus y gall y system hon o gymorth ariannol roi cymorth digonol i’r Aelodau fel y gallant ymateb i her capasiti strategol eu rôl graffu yn y Pedwerydd Cynulliad. “Rydym yn fodlon bod y system o gymorth ariannol rydym wedi’i chyflwyno yn gynaliadwy ac yn gost-effeithiol a’n bod wedi cyflawni ein swyddogaethau tra bydd lefelau’r gwariant o dan ein Penderfyniad wedi’u lleihau.” Ychwanegodd Mr Reid fod tair egwyddor graidd wedi bod yn sail i benderfyniad y bwrdd, sef:
  • nad yw’r system o gymorth ariannol i Aelodau’n atal personau sydd â’r ymrwymiad a’r gallu angenrheidiol rhag cael eu hethol ar sail ariannol;
  • bod y system yn rhoi adnoddau digonol i Aelodau’r Cynulliad i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau; a
  • bod y system yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario gydag uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.
Sefydlwyd y Bwrdd gan Fesur a gynigwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, mewn ymateb i argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Lwfansau Aelodau a gyhoeddwyd yn 2009. Dyma’r adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd ac mae’n nodi manylion y system o gymorth ariannol ar gyfer Aelodau yn y Pedwerydd Cynulliad. Cost arfaethedig y penderfyniadau y mae’r Bwrdd wedi’u gwneud fydd tua £12.7 miliwn yn 2011-12, sef gostyngiad o 7.1 y cant (mewn termau gwirioneddol) o’i gymharu â’r gyllideb ar gyfer 2010-11. Bydd y Bwrdd yn cwrdd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i drafod a fydd angen gwneud rhagor o newidiadau erbyn y Pumed Cynulliad.  
Adroddiad NODIADAU I’R GOLYGYDDION: Aelodau’r Bwrdd George Reid – Cadeirydd

Gwleidydd, newyddiadurwr ac academydd o’r Alban, Aelod o’r Cyfrin Gyngor, cyn AS, cyn Aelod o Senedd yr Alban, Llywydd Senedd yr Alban a Chadeirydd Corff Corfforaethol Senedd yr Alban. Gweithiodd mewn rhyfeloedd a thrychinebau am 15 mlynedd, pan oedd yn gyfarwyddwr y Groes Goch / y Cilgant Coch. Mae ei benodiadau presennol yn cynnwys Cynghorydd Annibynnol ar God Gweinidogol yr Alban, athro ar ymweliad ym Mhrifysgolion Glasgow a Stirling ac, o fis Hydref, Comisiynydd Etholaethol y DU. Yn ddiweddar, bu’n arwain adolygiadau strategol ar lywodraethu yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer yr Alban. Yr Athro Monojit Chatterji Academydd sydd â chryn brofiad ym maes polisi cyhoeddus. Mae wedi cyhoeddi gwaith ymchwil mewn meysydd sy’n cynnwys penderfynyddion taliadau’r sector cyhoeddus. Yr Athro Chatterji yw Cadeirydd presennol Cyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achosion Brys y DU (y corff negodi tâl). Cyn hynny, bu’n aelod o Gorff Adolygu Athrawon Ysgol, sy’n gwneud argymhellion i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau ar dâl ac amodau, a threfniadau llywodraethu hefyd ar gyfer athrawon a phenaethiaid ysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn aelod blaenorol o’r Grŵp Economegwyr, Swyddfa Economeg y Gweithlu, yn ystyried materion trawsbleidiol yn ymwneud â thâl yn y sector cyhoeddus. Stuart Castledine Cyfrifydd siartredig sydd wedi dal nifer o swyddi o fewn Allied Dunbar, Chartered Trust a Chymdeithas Adeiladu’r Bristol and West cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol cyntaf Tesco. Yn fwy diweddar, mae Stuart wedi ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau heriol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat gan helpu i sefydlu mentrau a chynghreiriau ar y cyd pwysig yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr sydd wedi gwyrdroi nifer o sefydliadau ariannol sy’n methu. Ar hyn o bryd, mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Mary Carter Gwnaeth Mary ymddeol fel partner o KPMG ym mis Medi 2008 ac, ar hyn o bryd, mae’n aelod o Gorff Adolygu Tâl y Lluoedd Arfog sy’n gwneud argymhellion i Brif Weinidog y DU a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar dâl y lluoedd arfog, lwfansau digolledu a thaliadau. Mae hefyd yn ymgynghorydd rhan amser i KPMG. Mae’n gyfreithwraig sydd wedi arbenigo am dros 20 mlynedd mewn cynghori cwmnïau yn y DU a thu hwnt ar daliadau ac ysgogiadau ar gyfer cyfarwyddwyr/uwch reolwyr a materion llywodraethu a threthu cysylltiedig. Sandy Blair Sandy yw cyfarwyddwr blaenorol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (fe ymddeolodd yn 2004).  Roedd yn brif weithredwr awdurdod lleol am 16 mlynedd cyn cael ei benodi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fe’u penodwyd yn Llywydd SOLACE ym 1999/2000. Mae wedi cael ei gyflogi mewn nifer o swyddi cyhoeddus ac wedi bod yn ymddiriedolwr cyrff cyhoeddus fel cyfarwyddwr anweithredol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Mynwy a swyddi o fewn yr Eglwys yng Nghymru. Bu’n aelod o Bwyllgor Taliadau Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.