Adeiladu ar gyfer Democratiaeth: Mae'r Senedd yn dathlu 10 mlynedd yng nghwmni'r penseiri yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour

Cyhoeddwyd 01/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2016

Mae'r Senedd, cartref eiconig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, yn dathlu 10 mlynedd ar ddydd Mawrth, 1 Mawrth gydag Adeiladu ar gyfer Democratiaeth, sgwrs yng nghwmni'r penseiri yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour o Rogers Stirk Harbour and Partners.

Mae'r Senedd, sy'n esgyn o lannau Bae Caerdydd ar sylfeini llechfaen, yn adeilad a gynlluniwyd i fod yn hygyrch ac yn dryloyw – adeilad agored lle y gall pobl Cymru weld y cynrychiolwyr etholedig sy'n gwneud y deddfau a'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Yn ei 10 mlynedd, mae'r Senedd wedi ennill ei phlwyf fel un o adeiladau mwyaf nodedig y wlad, fel rhan allweddol o waith ailddatblygu Bae Caerdydd, ac fel esiampl o gynaliadwyedd, ac iddi hi y dyfarnwyd y dosbarth uchaf erioed yng Nghymru o dan y Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM).

"Mae'r Senedd wedi ymsefydlu fel rhan ganolog o fywyd cyhoeddus Cymru," meddai'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae'n adeilad hollol anhygoel a fy hoff ran i ohono yw'r oriel gyhoeddus.

"Yn yr Oriel, fe gewch chi syniad go iawn o'r hyn sy'n digwydd yn y Siambr a'r cyffro sy'n rhan o hynny."

"Rwy'n cofio siarad â grŵp o blant ysgol a oedd yn ymweld â hi, a dywedodd y plant ei bod yn teimlo fel eu bod ar y Battlestar Galactica!

Mae'r adeilad wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Athenaeum Chicago (2007) a Gwobr Genedlaethol RIBA (2006), a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stirling RIBA am Adeilad y Flwyddyn (2006).

Fel cartref y Cynulliad Cenedlaethol a chanolfan democratiaeth yng Nghymru, mae'r Senedd wedi gweld 46 o Ddeddfau a Mesurau yn cael eu pasio mewn dadleuon yn y Siambr - sef y siambr drafod ar gyfer 60 Aelod y Cynulliad.

 

 


"Mae'r penderfyniadau a wneir yma yn effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru, felly mae'r egwyddorion o dryloywder a hygyrchedd, sy'n rhan annatod o'r adeilad, o'r pwysigrwydd mwyaf i mi," meddai'r Fonesig Rosemary.

"Yn bersonol, y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ganiatâd tybiedig i roi organau oedd un o uchafbwyntiau'r Senedd yn ei 10 mlynedd cyntaf. 

"Cafwyd cyfraniadau angerddol o bob tu a gellid teimlo wir fod rhywbeth hynod arbennig yn digwydd."

Mae dros filiwn o bobl wedi ymweld â'r Senedd ac mae'r staff wedi cynnal bron 30,000 o deithiau ar gyfer mwy na 200,000 o bobl, yn cynnwys disgyblion o gannoedd o ysgolion ledled Cymru.

Mae'r Senedd wedi cynnal digwyddiadau mawr, gan gynnwys dathliadau camp lawn tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn y Chwe Gwlad yn 2012, a'r digwyddiad i groesawu Olympiaid a Pharalympiaid Cymru yn ôl o gemau Llundain yn 2012.

"Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn creu lle i bobl i yng nghanol democratiaeth," meddai'r Arglwydd Rogers.

"Mae'r adeilad yn rhan o'r byd cyhoeddus, yn esgyn o'r porthladd tua'r ddinas, fel y gall dinasyddion wylio'u cynrychiolwyr etholedig a gweithio gyda hwy."

Bydd yr Arglwydd Rogers ac Ivan Harbour yn sgwrsio â Menna Richards, cyn-Reolwr BBC Cymru ac aelod cyfredol o banel Gwobrau Pensaernïaeth Cymru RIBA.

Dywedodd Mr Harbour:

"Dymuniad a gobaith Jim Callaghan oedd y byddai'r Senedd yn dod yn symbol o Gymru ledled y byd. Ddeng mlynedd ar ôl ei chwblhau, fy ngobaith innau yw ei bod wedi gwireddu'r uchelgais hwnnw." 

Mae Adeiladu ar gyfer Democratiaeth yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar 1 Mawrth, gan gynnwys digwyddiad i ddathlu'r Pedwerydd Cynulliad. Hefyd bydd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd yn derbyn y neges Dydd Gŵyl Dewi flynyddol gan ddisgyblion Ysgol Dewi Sant, Tyddewi am 14.30 yn y Neuadd.

Ar 5-6 Mawrth, bydd y Senedd yn cynnal penwythnos llawn hwyl i'r teulu i ddathlu ymhellach ei dengmlwyddiant, gan gynnwys:

  • Perfformiadau gan Sioe Cyw S4C; Côr Ysgol Glanaethwy - cystadleuwyr rownd derfynol Britain's Got Talent; Côr City Voices a syrcas No Fit State. 
  • Darperir gweithdai barddoniaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Anni Llŷn, bardd plant Cymru hefyd.
  • Gweithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, peintio wynebau a chwarae meddal i'r teulu cyfan ei fwynhau.
Rhagor o wybodaeth am y Senedd, gan gynnwys ei hanes, lluniau cysyniadol a'i nodweddion amgylcheddol.

Mae fideo o'r Senedd o'r awyr ar gael ar sianel YouTube y Cynulliad i'w gweld, ei rhannu a'i gosod. Mae'r fideo hefyd ar gael i'w lawrlwytho ar gais. Cysylltwch â thîm Cyswllt â'r Cyfryngau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae delweddau eglur iawn o du mewn a thu allan y Senedd ar gael o'r y ffolder Dropbox hon. Cofiwch gydnabod 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.