Adferiad gwyrdd, a neb wedi ei adael ar ôl

Cyhoeddwyd 04/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2021   |   Amser darllen munud

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd wedi cynnal ymchwiliad eang i sut y dylai Cymru sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig Covid-19.

Yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos hon, mae’r Pwyllgor yn awyddus fod buddsoddiadau adfer yn cael eu defnyddio i wella economi Cymru yn yr hirdymor.

Gydag addewidion o fuddsoddiadau sylweddol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae’r Pwyllgor wedi darparu cyfres o argymhellion ar gyfer adferiad gwyrdd sy’n blaenoriaethu hyfforddiant a sgiliau.

Buddsoddi Mewn Sgiliau a Hyfforddiant

Mae’r Pwyllgor yn credu mai adferiad gyda phwyslais ar sgiliau ddylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru ac y bydd hynny yn hanfodol i helpu i adfywio’r economi, cefnogi creu swyddi o ansawdd da, taclo trapiau sgiliau isel a gwella cynhyrchiant Cymru.

Mae’r Pwyllgor yn credu y dylid mabwysiadu dull cydgysylltiedig o ran sgiliau a’r adferiad, gan sicrhau y caiff hyfforddiant ei ddarparu i gyd-fynd ag anghenion yr economi. Mae’n argymell y dylai cyllid ailadeiladu’r economi gefnogi datblygiad sgiliau ac i’r gwrthwyneb.

Yn ogystal â buddsoddi yn yr hyfforddiant a’r sgiliau cywir, dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth hefyd i gefnogaeth ar gyfer ymchwil ac arloesi. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am sut y bydd gweithwyr ymroddgar, effeithiol a medrus yn gynhyrchiol, a bod gweithgarwch sy’n ymwneud ag arloesi yn ysgogi twf o ran cynhyrchiant.  Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach i fuddsoddi mewn arloesi fel y gallant ddal i fyny ar amser datblygu a gollwyd oherwydd y pandemig.

Adferiad Gwyrdd

Mae’r Pwyllgor o’r farn bod adferiad gwyrdd, yn ogystal â darparu manteision amgylcheddol, hefyd yn ddeniadol yn economaidd. Clywodd y Pwyllgor gefnogaeth eang i hyn gan gynrychiolwyr busnes, undebau llafur, melinau trafod, academyddion a sefydliadau amgylcheddol. Clywodd y Pwyllgor am y potensial i greu swyddi’n gyflym mewn ardaloedd wedi eu taro galetaf yn sgîl y pandemig, drwy fuddsoddi mewn technoleg werdd a datgarboneiddio, a swyddi i weithwyr gyda llai o gymwysterau na’r cyfartaledd.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd uchelgeisiol a thrawsnewidiol, gan roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd, naturiol a datgarboneiddio economi Cymru. O gofio am ddatganiad Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng o ran yr hinsawdd, dylai nodi cynlluniau ar raddfa ddigonol i gyflawni’r her hon.

Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i gyflymu prosiectau seilwaith gwyrdd sy’n ‘barod i fynd’ (sef, prosiectau adeiladu ar y cam lle gellir cyflogi gweithwyr a dechrau adeiladu) i hybu creu swyddi ar ddechrau’r adferiad.

Roedd llawer a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor yn cytuno bod risg gwirioneddol y bydd Cymru yn colli swyddi diogel o ansawdd uwch gyda’r farchnad lafur yn troi’n un fwy ysbeidiol, o ganlyniad i’r argyfwng economaidd wedi ei greu gan y pandemig. Mae’r Pwyllgor yn cytuno bod yn rhaid gwneud ymdrech ddwys i atal y farchnad lafur rhag troi yn un ysbeidiol ac i sicrhau na fydd swyddi â sgiliau uwch sy’n talu cyflogau da yn cael eu disodli gan swyddi â sgiliau is sy’n talu cyflogau isel.

Cefnogaeth Barhaus i Sectorau a Gafodd eu Taro’n Galed

Er bod bron pob busnes yng Nghymru wedi teimlo effaith negyddol y pandemig, mae busnesau na allent ddarparu gwasanaethau ar-lein yn hawdd, fel lletygarwch, twristiaeth a salonau gwallt a harddwch wedi cael eu taro galetaf. Mae’r Pwyllgor yn pryderu y teimlir yr effaith ar y sectorau hyn, sydd wedi’u taro galetaf o ran yr economi, am nifer o flynyddoedd. Mae’r Pwyllgor o’r farn y bydd angen cefnogaeth hirdymor er mwyn iddynt ddychwelyd i’w sefyllfa gref cyn y pandemig, neu yn achos sectorau a oedd eisoes yn ei chael hi’n anodd, i’w helpu i ffynnu yn yr hyn a elwir y ‘normal newydd’.

Clywodd y Pwyllgor rybuddion am beryglon dirwyn cefnogaeth i ben yn rhy gyflym, ac mae’n galw am leihau cymorth ariannol mewn modd sensitif er mwyn osgoi gwaethygu anghydraddoldebau. Mae Aelodau’r Pwyllgor yn credu bod angen strategaeth ymadael â’r pandemig sy’n gryfach ac yn para’n hirach ar fusnesau sydd wedi teimlo effeithiau gwaethaf y pandemig o gymharu â gweddill yr economi.

Adferiad i Bawb

Mae’r tystiolaeth i’r Pwyllgor hefyd wedi amlinellu bod effeithiau’r pandemig wedi eu teimlo mewn modd anghyfartal gyda Covid-19 yn taro’r bobl hynny sydd eisoes ar incwm isel iawn ac ychydig o wytnwch galetaf. Mae menywod, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ifanc i gyd wedi eu heffeithio’n anghymesur.

Gan bod angen buddsoddi i ail-greu yn sgîl COVID-19, mae’r Pwyllgor yn poeni am y risg o ‘ragfarn ddiarwybod’ o ran buddsoddi mewn swyddi a sgiliau mewn meysydd cyflogaeth lle mae rhagor o ddynion na menywod. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid ail-greu ar ôl COVID-19 i annog menywod i ymgymryd â rhagor o rolau, er enghraifft, yn y sector adeiladu, yn enwedig y swyddi hynny a grëir yn sgîl buddsoddiadau mewn seilwaith gwyrdd. Hefyd mae’n galw am greu swyddi newydd mewn sectorau lle mae mwyafrif y gweithlu’n cynnwys menywod ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor wedi amlinellu cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei anghofio yn adferiad Cymru o’r pandemig Covid-19.

Atal Cyfradd Frig o ran Diweithdra Ymhlith Pobl Ifanc, a Chenhedlaeth Wedi’i Chreithio

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei lansio heddiw, hefyd yn amlinellu effaith ddinistriol Covid-19 ar obeithion a dyheadau pobl ifanc. Eisoes mae dwy garfan o bobl ifanc wedi graddio yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19 ac mae’r Pwyllgor yn credu y bydd y pandemig a’r argyfwng economaidd yn effeithio ar fyfyrwyr sy’n gadael addysg am gryn amser. Mae cynnydd mewn diweithdra a gostyngiad mewn cynnyrch domestig gros yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ifanc ymuno â’r farchnad lafur a datblygu eu gyrfaoedd. Mae’r Pwyllgor yn credu, heb weithredu, bod risg gwirioneddol i genhedlaeth gael ei chreithio gan COVID-19.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu strategaeth sy’n cynnwys ymyriadau wedi’u targedu, gyda’r nod o gefnogi cyflogadwyedd y carfannau o bobl ifanc sy’n gadael addysg yn ystod y pandemig. Mae hefyd am ei weld yn defnyddio dull gweithredu sy’n mynd y tu hwnt i gamau cyflogadwyedd i ddatblygu hyder a gwytnwch pobl ifanc.

Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:

“Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ddinistriol ledled y byd. Er ein bod wedi gweld ymdrechion arwrol gan staff y GIG a gweithwyr allweddol, yn ogystal ag ymyrraeth ddigyffelyb gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gadw’r wlad yn ddiogel ac i gynnal yr economi, mae Cymru yn parhau i wynebu ei her economaidd fwyaf ers cyn cof.

“Wrth i’r argyfwng iechyd gilio rhywfaint, rhaid i’r genedl droi ei golygon at yr argyfwng economaidd sydd wedi deillio yn sgîl y pandemig, a sut y dylid mynd ati i sicrhau adferiad ohono.

“Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi addo buddsoddiadau mawr ar gyfer ailadeiladu. Os defnyddir y buddsoddiadau hyn yn gywir, byddwn yn gallu mynd i’r afael â phroblemau sydd wedi creu her i Gymru ers degawdau, a chreu yfory mwy disglair a mwy gwyrdd.

“Mae ein hymchwiliad eang wedi caniatáu inni gasglu tystiolaeth amhrisiadwy gan arbenigwyr er mwyn darparu argymhellion clir i Lywodraeth nesaf Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd, sy’n gadael neb ar ôl”