Adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau

Cyhoeddwyd 26/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2018

​Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi trydydd ymgynghoriad ynghylch cyfres o gynigion i ddiwygio'i Benderfyniad yn dilyn ei adolygiad o gymorth staffio i Aelodau'r Cynulliad.

Mae'r ddogfen ymgynghori'n amlinellu cynigion i atal Aelodau'r Cynulliad rhag cyflogi aelodau o'r teulu drwy ddefnyddio arian o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau yn ogystal â chynigion i newid amodau a thelerau staff cymorth yr Aelodau.

Dyma'r cynigion y mae'r Bwrdd am ymgynghori yn eu cylch:

  • Cynnig i ddileu'r cyllid i Aelodau'r Cynulliad gyflogi aelodau o'r teulu a phartneriaid, a hynny ar ôl diddymu'r Cynulliad y tro nesaf,  sef ym mis Ebrill 2021 mae'n debyg;
  • Cynnig i ddileu'r cyllid ar gyfer unrhyw aelodau newydd o'r teulu a benodwyd (neu a gafodd eu dyrchafu neu y newidiwyd eu contract presennol) ar ôl 24 Hydref 2018.
  • Cynigion i gyflwyno diwrnodau braint a pholisi gwyliau tosturiol newydd i staff cymorth a hefyd i addasu cyflogau staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (tebyg i'r newid blynyddol i Aelodau'r Cynulliad).

Yn ogystal â'r cynigion a amlinellwyd, mae'r Bwrdd hefyd wedi cytuno i ymgynghori ynghylch newidiadau i'r Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno o ganlyniad i benderfyniad y  Cynulliad i fabwysiadu'r polisi Urddas a Pharch.

Mae'r Bwrdd eisoes wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad yn deillio o'i adolygiad sydd wedi cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y modd y caiff Aelodau'r Cynulliad a grwpiau plaid wario eu lwfansau staffio.

Mae'r ddogfen ymgynghori lawn yn cynnwys y manylion a'r rhesymau dros gynigion y Bwrdd. Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Iau 13 Rhagfyr 2018.  Bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynigion yn y flwyddyn newydd.